Mae sfferosytosis etifeddol yn nodwedd awtosomaidd gryfach neu wannach, a ganfyddir gan amlaf (er nad yn unig) ymhlith pobl o dras ogledd-Ewropeaidd, ond amcangyfrifir bod 25% o achosion yn deillio o fwtadiadau digymell. Mae gan riant bosibilrwydd o 50% o drosglwyddo’r mwtadiad ymlaen i bob un o’i blant/phlant.