Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae sfferosytosis etifeddol (HS) yn anhwylder etifeddol sy’n effeithio ar gelloedd cochion y gwaed; gall fod yn ysgafn, cymedrol neu ddybryd. Mewn HS, mae celloedd cochion y gwaed yn newid eu siâp gan droi’n fwy sfferig yr olwg (celloedd gwaed cochion sfferosytig) wrth i bilen arwyneb y gell fynd yn llai sefydlog.

Mae’r newid siâp yn ei gwneud hi’n fwy anodd i gelloedd cochion y gwaed deithio o gwmpas y corff ac yn eu troi’n fwy tueddol i rwygo. Mae celloedd gwaed cochion sfferosytig yn hawdd i’w difa, a gallant oroesi am rai dyddiau’n unig o’u cymharu â chelloedd gwaed cochion iach sy’n gallu byw am 120 o ddyddiau. Yn y ddueg y mae celloedd cochion gwaed abnormal yn cael eu difa. Gall y dinistr abnormal hwn arwain at fath o anemia o’r enw anemia hemolytig. Gall hyn yn ei dro arwain at y clefyd melyn oherwydd y cynnydd yn y bilirwbin sy’n cylchredeg a gynhyrchir yn ystod hemolysis.