Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin yw hemoffilia yng Nghymru?

Amcangyfrifir ar raddfa ryngwladol y bydd 1 o bob 5,000 o fechgyn yn cael eu geni â hemoffilia A, ac y bydd 1 o bob 30,000 yn cael eu geni â hemoffilia B. Mae risg bychan y bydd merched yn cael eu geni â’r anhwylder os yw’r ddau riant yn cludo’r genyn. Rhwng 1998 a 2015 cofnodwyd 39 o achosion o hemoffilia A ar gronfa ddata CARIS, a 5 achos o hemoffilia B, sef ychydig yn llai na’r nifer y gellid ei disgwyl. Mae’n bosibl mai’r rheswm yw nad yw pob achos yn cael ei adrodd i gronfa ddata CARIS.