Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r rhagolygon?

Mae’n bosibl na fydd gan blant â hemoffilia ysgafn neu gymedrol arwyddion na symptomau adeg eu geni. Eu symptomau cyntaf yn aml yw cleisiau mawr a niferus yn sgil cwympau a thrawiadau wrth iddynt ddysgu cerdded. Er nad oes modd iacháu hemoffilia, gellir ei gadw dan reolaeth drwy drwythiadau rheolaidd o’r ffactor ceulo sy’n ddiffygiol, h.y. y ffactor VIII mewn hemoffilia A neu’r ffactor IX mewn hemoffilia B. Gellir adnewyddu’r ffactor ar wahân i serwm gwaed dynol, mewn ailgyfuniad ag ef, neu mewn cyfuniad o’r ddau ddull. Mae therapi genynol yn cynnig triniaeth ddichonol, ac mae’r arbrofion wedi bod yn galonogol.

Ers i driniaethau effeithiol ddechrau bod ar gael, mae disgwyliad oes wedi cynyddu’n sylweddol.