Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ffactorau genetig?

Gan mai anhwylderau gwan X-gysylltiedig yw’r rhain, maent yn fwy tebygol o ddigwydd mewn gwrywod na mewn benywod. Y rheswm yw bod gan fenywod dau gromosom X tra nad oes gan wrywod ond un; mae’r genyn diffygiol yn sicr o ymddangos felly mewn unrhyw wryw sy’n ei gludo. Gan fod gan fenywod ddau gromosom X a chan fod hemoffilia mor anghyffredin, mae’n annhebyg iawn y bydd gan fenyw ddau gopi diffygiol o’r genyn; mae benywod felly bron yn ddieithriad yn gludwyr ansymptomatig ar gyfer yr anhwylder hwn.

Mae hemoffilia cynhenid yn effeithio ar bob grŵp ethnig ar hyd a lled y byd, er bod hemoffilia C i’w weld yn bennaf ymhlith pobl o dras Iddewig Ashcenasi.