Neidio i'r prif gynnwy

Sut gellir ei ganfod?

Yn ystod y cyfnod cynenedigol cynigir sgriniad ar gyfer anhwylder y crymangelloedd i’r menywod hynny y mae eu hatebion i holiadur yn awgrymu eu bod mewn risg uwch o ddioddef anhwylder y crymangelloedd. Mae’r rhai sydd mewn risg uwch yn cynnwys menywod y mae gwlad eu geni neu eu hynafiaid yn Affrica, y Caribî, Môr y Canoldir, Yr India, Asia neu’r Dwyrain Canol. Os canfyddir bod menyw yn cludo’r anhwylder, yna bydd tad y baban yntau’n cael ei sgrinio. Os canfyddir ei fod yntau’n gludydd, yna cynigir profion i’r fenyw er mwyn sefydlu statws y baban. Gallai hyn olygu p’un ai samplu chorion villus neu amniosentesis. Mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan sgrinio cynenedigol : www.antenatalscreening.wales.nhs.uk/

Mae pob baban newydd anedig yng Nghymru’n cael profion ar gyfer clefyd y crymangelloedd fel rhan o’r rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed i’r Newydd Anedig. Cymerir sampl fach o waed o sawdl y baban, a hynny’n ddelfrydol ar bumed diwrnod bywyd y baban, a chynhelir profion arno ar gyfer nifer o anhwylderau gan gynnwys clefyd y crymangelloedd. Gellir gweld rhagor o fanylion ar wefan Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd Anedig Cymru: http://www.newbornbloodspotscreening.wales.nhs.uk/home