Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin yw clefyd y crymangelloedd yng Nghymru?

Mae adran sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru’n awgrymu bod nifer yr achosion o glefyd y crymangelloedd ar draws y DU yn 1 i bob 2,000 o enedigaethau byw; serch hynny, mae’r mynychder yn is o lawer yng Nghymru na mewn rhai mannau eraill yng ngwledydd Prydain. Mae nifer uwch o achosion o glefyd y crymangelloedd i’w gweld mewn cymunedau sydd yn fwy amrywiol eu tras ethnig; fe’i gwelir yn amlach felly mewn trefi a dinasoedd na mewn ardaloedd gwledig. Mae 27 o achosion o glefyd y crymangelloedd wedi’u cofnodi ar gronfa ddata CARIS, sef cyfradd gyfartalog o 0.4 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw.

Mae’n amlwg bod yna fwy o bobl sy’n cludo’r clefyd nag sydd yn ei ddioddef, ac mae Orphanet yn amcangyfrif mynychder cludwyr o 1/150 ar draws Ewrop.