Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ffactorau genetig, a ydyw'n etifeddol?

Ydy – mae’r babanod hynny a enir ag anhwylder y crymangelloedd yn etifeddu dau enyn hemoglobin abnormal, sef un o bob rhiant. Pan fydd gan rywun ddau enyn hemoglobin S (HbS),  gelwir y clefyd yn anemia’r crymangelloedd.  Pan fydd gan rywun un genyn HbS yn unig, ochr yn ochr ag un genyn hemoglobin ‘normal’ (HbA), dywedir bod ganddi/ganddo nodwedd grymangellol (HbAS), ac nid yw hyn yn amharu ar ei (h)iechyd. Serch hynny, mae un posibilrwydd mewn pedwar, petai’r person yn cael plentyn gyda rhywun arall sy’n dioddef nodwedd grymangellol, y byddai eu baban yn cael ei eni ag anemia’r crymangelloedd (HbSS). Mae gwybodaeth ddefnyddiol am etifeddiaeth ar gael ar wefan Cymdeithas y Crymangelloedd: http://sicklecellsociety.org/.