Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin yw Clefyd Von Willebrand yng Nghymru?

Credir bod lefel ei fynychder yn agos i 1 ym mhob 100 ar raddfa ryngwladol, ond mae llawer o bobl heb symptomau nad ydynt byth yn derbyn diagnosis. Ond mae mynychder y math mwyaf dybryd, sef math 3, yn is o lawer; mae gwahanol astudiaethau wedi’i amcangyfrif rhwng 1 a 3 i bob miliwn o bobl, er ei fod yn uwch mewn poblogaethau lle mae priodasau cydwaed yn fwy cyffredin. Mae gan bobl â gwaed math O lefelau ffactor Von Willebrand sydd tua 25% yn is na gweddill y boblogaeth. Mae rhyw 80% o achosion yn perthyn i fath 1.  Tra bod y clefyd yn digwydd yr un mor aml mewn gwrywod a benywod, mae tueddiad i fenywod dderbyn diagnosis yn amlach gan eu bod yn dod i sylw meddygon oherwydd mislifoedd trwm / poenus neu waedlif gormodol wrth esgor.

Dim ond 34 o achosion a gofnodwyd ar gronfa ddata CARIS rhwng 1998 a 2015, llai o lawer na’r disgwyl; mae hyn yn awgrymu nid yn unig bod yr anhwylder yn cael ei adrodd i CARIS yn llai aml nag y dylai, ond hefyd bod peth wmbredd o achosion yn mynd heb gael eu diagnosio. Ar ben hyn mae canllawiau ledled y DU yn argymell na ddylid cynnal profion ar blant ar gyfer y clefyd fel mater o drefn cyn iddynt gyrraedd 6 mis oed, oherwydd y newidiadau naturiol ym mhresenoldeb ffactor Von Willebrand yn y gwaed yn ystod misoedd cyntaf bywyd plentyn.