Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Clefyd Von Willebrand yw’r anhwylder ceulo gwaed etifeddol mwyaf cyffredin. Mae 3 math o glefyd wedi cael eu nodi, a math 3 yw’r ffurf fwyaf dybryd ohono. Fe’i achosir p’un ai gan ddiffyg ffactor Von Willebrand sydd yn brotein gwaed, neu gan fethiant y protein hwn i weithredu fel y dylai. Mae ffactor Von Willebrand yn hanfodol ar gyfer ymlyniad y platennau; fe’i henwyd ar ôl y meddyg o’r Ffindir a ddisgrifiodd y clefyd yn gyntaf ym 1926. Mae ffactor Von Willebrand hefyd yn cludo ac yn amddiffyn ffactor ceulo arall – y Ffactor VIII.

Gall Clefyd Von Willebrand beri cleision gyda thrawma ysgafn iawn, a gwaedlifau o’r trwyn ac o gig y dannedd. Gall menywod sydd â’r anhwylder gael mislifoedd trwm a cholli mwy o waed na’r cyffredin wrth esgor ar blant.