Neidio i'r prif gynnwy

Esboniad i leygwyr

Mae gan blant sy’n cael eu geni â Syndrom Ansensitifrwydd i Androgenau (AIS) gromosomau X ac Y, sef y cyfuniad a ystyrir yn enetigol wrywaidd. Serch hynny, tra’u bod yn y groth nid ydynt yn datblygu nodweddion rhywiol gwrywaidd gan nad yw eu cyrff yn ymateb i androgenau. Mae androgenau’n hormonau gwrywaidd, gan gynnwys testosteron, sydd yn angenrheidiol er mwyn i nodweddion gwrywaidd ddatblygu.

Gall y syndrom fod yn gyflawn (CAIS) neu’n rhannol (PAIS). Mae CAIS yn llai cyffredin o lawer na PAIS. Yn achos plant â CAIS, fe fydd eu horganau rhywiol yn ymddangos yn hollol fenywaidd ond ni fydd ganddynt ofarïau na chroth; yn achos plant â PAIS mae yna sbectrwm sy’n ymestyn o organau rhywiol sydd yn ôl pob golwg yn fenywaidd i rai hollol wrywaidd yr olwg. Mae’r plant hyn i gyd yn cael eu geni â cheilliau, er nad ydynt bob amser i’w gweld yn amlwg o’r tu allan. Gall y plant ymateb i atchwanegiadau hormonaidd benywaidd, ond ni fydd plant â CAIS yn ymateb i atchwanegiadau hormonaidd gwrywaidd.

Gan fod golwg fenywaidd ar organau rhywiol y baban newydd anedig, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu magu fel plant benywaidd o’u genedigaeth ymlaen. Gall na fydd diagnosis yn digwydd nes iddynt gyrraedd oed aeddfedrwydd, wrth i archwiliadau gael eu cynnal i weld pam nad yw’r plentyn yn cael mislif nac yn tyfu blew cedor.

Anhwylder anghyffredin yw hwn, y credir ei fod yn digwydd mewn tuag 1 o bob 20,000 o enedigaethau. Dylai’r plant sydd â’r anhwylder dderbyn gofal gan dîm arbenigol sydd â’r wybodaeth a’r profiad perthnasol i ddelio â’r anhwylder hwn a rhai tebyg.