Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae’n digwydd mewn gwrywod sydd â charyoteip XY normal ond pan fydd celloedd y corff yn rhannol neu’n llwyr ddiymateb i’r hormonau gwrywaidd, sef androgenau. Mae hyn yn amharu ar ddatblygiad organau rhywiol gwrywaidd yn y ffetws ac ar adeg blaenaeddfedrwydd. Gall y syndrom fod yn gyflawn, gan arwain at ddatblygiad organau rhywiol allanol benywaidd normal, neu rai rhannol lle mae’r organau rhywiol allanol yn rhannol wrywaidd.