Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae Syndrom Klinefelter yn deillio o fodolaeth cromosom X ychwanegol mewn gwryw, sy’n rhoi caryoteip o 47XXY. Dyma un o’r anomaleddau cromosomol mwyaf cyffredin. Gall y bydd y ceilliau heb ddisgyn hefyd adeg y geni. Yn aml ni wneir y diagnosis tan ddyfodiad blaenaeddfedrwydd gan fod y symptomau’n gynnil. Gallant gynnwys gwendid yn y cyhyrau, prinder blew ar y corff, organau rhywiol bach a thwf y bronnau. Gall hefyd y bydd oedi datblygiadol i’w weld yn y plentyn. Y brif nodwedd yn nes ymlaen mewn bywyd yw anffrwythlondeb.