Mae cyfraddau yng Nghymru wedi aros yn sefydlog ers rhai blynyddoedd, sef rhyw 30 i bob 10,000 o enedigaethau byw. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd EUROCAT, sef 18 i bob 10,000 o enedigaethau byw, ond yn debyg i’r gyfradd a adroddir yn Awstralia Orllewinol[vi].
Lle mae modd, mae CARIS yn casglu data ynghylch pryd mae llawdriniaeth yn digwydd. Mae’r data hyn yn anghyflawn ar gyfer y cyfnod cyn 2005. O 2005 i 2012 gwyddys dyddiad y cywiriad llawfeddygol cyntaf mewn 419 o achosion.
Oedran ar adeg y weithdrefn lawfeddygol gyntaf |
Nifer |
% o achosion |
< 2 flwydd oed |
112 |
26.7 |
< 3 flwydd oed |
216 |
51.6 |
< 4 flwydd oed |
56 |
13.4 |
< 5 flwydd oed |
21 |
5.0 |
5+ flwydd oed |
14 |
3.2 |
I grynhoi, mae 78.3% o’r achosion yr hysbyswyd CARIS amdanynt wedi cael llawdriniaeth cyn eu 3ydd penblwydd.