Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ffactorau risg?

Mae Clomiphen, cyffur a ddefnyddir mewn triniaethau ffrwythlondeb i ysgogi ofyliad, wedi cael ei gysylltu â chynnydd yn y risg o hypospadias[iii]. Yn 1% o’r achosion a adroddir ar gronfa ddata CARIS, nodwyd bod y mamau wedi cymryd clomiphen.

Mae twf cyfyngedig wedi cael ei gysylltu â hypospadias[iv]. Dengys data CARIS fod 18.4% o achosion yn pwyso llai na 2.5kg adeg eu geni.

Nodwyd hefyd fod y mynychter ymhlith gefeilliaid wedi cynyddu[v]. Dengys data CARIS fod 4.5% o achosion yn deillio o feichiogrwydd lle ganwyd gefeilliaid; mewn nifer fach o achosion, mae’n effeithio ar y ddau efell.