Anomaledd yn yr wrethra gwrywol yw hwn, lle nad yw’r meatws (agoriad) troethol yn y lleoliad cywir ar ben y pidyn [i], [ii]. Yn y rhan fwyaf o achosion mae’r meatws ar ben y pidyn neu’n agos iddo (ar yr eithaf). Yn y gweddill mae yn y ceillgwd neu’n agos iddo. Mae’r blaengroen yn arfer fod yn isddatblygedig. Dosberthir hypospadias mewn gwahanol gategorïau gan ddefnyddio codau ICD-10 Sefydliad Iechyd y Byd, yn ôl lleoliad y meatws.
Achosion o hypospadias a gofrestrwyd ar gronfa ddata CARIS 1998 – 2014
Math o hypospadias |
Nifer |
% o achosion y gwyddys amdanynt |
Ar ben y pidyn (Q54.0) |
938 |
78.1 |
Ar hyd y pidyn (Q54.1) |
179 |
14.9 |
Ar y pidyn neu’r ceillgwd (Q54.2) |
67 |
5.6 |
Ar y perinëwm (Q54.3) |
17 |
1.4 |
Mae 501 o achosion eraill wedi’u cofrestr ar CARIS lle na nodwyd y math o hypospadias.
Mewn gwrywod y mae’r holl achosion o hypospadias a adroddwyd i gronfa ddata CARIS. Ceir rhyw sôn am hypospadias mewn menywod mewn cyfnodolion meddygol a llyfrau testun; ond mae hyn yn llai cyffredin o lawer na mewn gwrywod, ac nid oes adroddiadau am achosion yng Nghymru. Yn achos hypospadias mewn menywod, mae agoriad yr wrethra wedi’i leoli yn y wain.