Neidio i'r prif gynnwy

A oes anomaleddau cysylltiedig?

Yr anomaledd a gysylltir amlaf â hyn yw caill gudd. Mae gan 3.2% o’r achosion a gofnodwyd ar gronfeydd data CARIS geilliau nad ydynt wedi disgyn (cuddgeilliogrwydd). Mae’r data hyn yn anghyflawn ers nifer o flynyddoedd; mae’n debygol felly fod hyn yn amcangyfrif rhy isel. Mae’n bosibl bod hypospadias a cheilliau cudd yn awgrymu anhwylder ynghylch gwahanoliad rhywiol.