Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ei reoli, a beth yw'r deilliant?

Yn ôl y ddogfennaeth, pennir rhyw benywaidd i 2 o bob 3 baban ar y dechrau. Daw ymchwiliad pellach fel arfer ar adeg blaeneddfedu, oherwydd amenorhoea a diffyg datblygiad y bronnau. Mae angen llawdriniaeth a therapi hormonau, yn ddibynnol ar sut mae’r plentyn wedi cael ei fagu. Mae’r rhan fwyaf o wrywod yn amhlantadwy o ganlyniad i gyfrif sberm isel/absennol sy’n gysylltiedig â cheilliau cudd. Mae’r rhai sydd wedi cael eu magu fel benywod yn amhlantadwy oherwydd absenoldeb croth, tiwbiau Ffalopaidd ac ofarïau.