Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r patrwm yng Nghymru a'r byd?

Erys y data yn anghyflawn yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd cyn 2008. Y gyfradd gyffredinol a roddir ar gronfa ddata CARIS yw 24.3 i bob 10,000 o enedigaethau byw. Ond mae hyn yn cynyddu i 35-40 i bob 10,000 o enedigaethau byw ar gyfer y blynyddoedd hynny lle mae’r data cyflawn ar gael. Mae NICE yn dyfynnu cyfradd fynychter o 3.7% adeg geni ac 1.0% yn dri mis oed. Gall fod yn anodd sicrhau ffigurau manwl gywir oherwydd y posibilrwydd nad yw pob achos tybiedig yn cael ei adrodd. Mae’n debyg bod niferoedd y rhai sydd angen llawdriniaeth yn rhoi syniad mwy dibynadwy o’r gwir fynychter. Mae’r cyfraddau yng Nghymru’n gymaradwy â’r rhai sydd wedi cael eu hadrodd o Awstralia Orllewinol dros y blynyddoedd diweddar