Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r darlun clinigol?

Mae’r symptomau’n amrywiol iawn, gan ymestyn o organau rhywiol amwys at fabanod hollol wrywaidd neu hollol fenywaidd eu golwg. Yn aml iawn mae’r gonadau’n datblygu’n anghymesur. Gall hyn olygu caill ar y naill ochr, a rhesen o onad yn unig ar y llall. Mae ymgyflwyniadau eraill yn cynnwys cuddgeilliogrwydd a hypospadias.

Gall y rhai y dyrennir rhyw benywaidd iddynt gyflwyno arwyddion gwrywioli a nodweddion o syndrom Turner (45XO). Gall byrder fod yn bresennol yn y ddau ryw.