Ar gyfer adroddiad blynyddol 2015 dewisodd y tîm sy’n gyfrifol am CARIS ganolbwyntio ar anhwylderau datblygiad rhywiol a oedd wedi cael eu hadrodd i CARIS rhwng 1998 a 2014. Mae nifer o wahanol anhwylderau perthnasol, ac mae’r ffactorau sy’n achosi pob un yn amrywio. Mae llawer o’r anhwylderau’n ymddangos ar hyd sbectrwm, a gall enbydrwydd pob un amrywio o blentyn i blentyn.
Mae sawl anhwylder cynhenid lle y gall plant sydd â golwg allanol y naill rhyw berthyn yn nhermau genetig i’r llall. Mae yna anhwylderau hefyd lle y bydd gan blant gromosomau ychwanegol mewn gwahanol gyfuniadau megis XXY, XXXY neu XXYY, neu gromosomau yn eisiau (45X). Genir y rhan fwyaf o bobl â 46 o gromosomau, y mae 44 ohonynt mewn 22 o barau. Y ddau arall sy’n benderfynu rhyw’r plentyn adeg ei eni. Mae gan y rhan fwyaf o wrywod un cromosom X ac un cromosom Y, tra bod gan y rhan fwyaf o fenywod ddau gromosom X.
Mae yna anhwylderau eraill lle, am wahanol resymau, y genir plant ag anhwylderau cynhenid sydd wedi effeithio ar ddatblygiad eu horganau rhywiol tra eu bod yn y groth, ond nad effeithir ar eu cromosomau.
Mae nifer o dermau ambarél mewn bodolaeth i ddisgrifio plant sydd â’r gwahanol anhwylderau. Mae rhai gweithwyr proffesiynol a grwpiau cleifion yn hybu’r term “intersex” (rhyngrywiol, rhyngrywioldeb) i ddisgrifio plant sydd â Syndrom Ansensitifrwydd i Androgen (AIS) ac anhwylderau tebyg; defnyddir hefyd ‘plant ag anhwylderau datblygiad rhywiol’ neu ‘blant ag organau rhywiol amwys’.
[i] Hypospadias in the Neonate, Stokowski L et al, Advances in Neonatal Care 2004; 4(4)
[ii] www.gosh.nhs.uk/medical-information/search-medical-conditions/hypospadias
[iii] Meijer, W. M., de Jong-Van den Berg, L. T.W., van den Berg, M. D., Verheij, J. B.G.M. and de Walle, H. E.K. (2006), Clomiphene and hypospadias on a detailed level: Signal or chance?. Birth Defects Research Part A: Clinical and Molecular Teratology, 76: 249–252. doi: 10.1002/bdra.20243
[iv] Hussein et al “Hypospadias and early gestational growth restriction in infants” , Pediatrics Vol.109 No 3 March 1, 2002 pp.473-478 (doi: 10.1542/peds 109.2.473)
[v] Fredell L, Kockum I, Hansson E, Holmner S, Lundquist L, Lackgren G, Pedersen J, Stenberg A, Westbacke G, Nordenskjold A “Heredity of hypospadias and the significance of low birth weight” J Urol 167: 1423-1427
2002
[vi] www.icbdsr.org/filebank/documents/ar2005/Report2012.pdf
[i] Nielsen J, Wohlert M: Sex chromosome abnormalities found among 34,910 newborn children: results from a 13-year incidence study in Arthus, Denmark. In Children and Young Adults with Sex Chromosome Aneuploidy. Birth Defects: Original Article Series. Volume 26. Edited by Evans JA, Hamerton JL. New York: Wiley-Liss, for the March of Dimes Birth Defects Foundation; 1991::209-223
[i] Lee, Mazur, Danish et al (1980) Micropenis. Criteria, etiologies and classification The Johns Hopkins medical journal 146(4) 156-163