Neidio i'r prif gynnwy

Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Ymgorffori Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Lesiant yn y Gweithle

Cyflwyniad

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn cyfeirio at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gyfrifol ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol, drwy:

  • Leihau gwastraff
  • Hyrwyddo ynni adnewyddadwy
  • Lleihau llygredd

Mae gan gyflogwyr ran allweddol i’w chwarae yn yr ymdrech hon drwy ymgorffori arferion cynaliadwy yn eu gweithrediadau, eu cadwyni cyflenwi a’u diwylliant corfforaethol. Drwy wneud hynny, maent yn cyfrannu at iechyd a llesiant eu gweithwyr, eu cymunedau a’r blaned yn ogystal â sicrhau hyfywedd hirdymoreu busnes.

Mae’r cysylltiad rhwng newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol yn arwyddocaol a chymhleth:

  • Mae newid hinsawdd yn cyfeirio at y newid hirdymor i dymheredd a phatrymau tywydd arferol mewn rhanbarth, sydd wedi’i ddylanwadu i raddau helaeth gan weithgareddau dynol, gan gynnwys llosgi tanwydd ffosil, datgoedwigo a phrosesau diwydiannol.
  • Mae cynaliadwyedd amgylcheddol ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar ddiogelu adnoddau naturiol ac ecosystemau ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

Pam canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol?

Bydd ceisio sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol yn helpu i liniaru’r argyfwng hinsawdd yr ydym i gyd yn ei wynebu a’r effeithiau amgylcheddol, iechyd, cymdeithasol ac economaidd sy’n gysylltiedig â hyn. I gyflogwyr, mae ceisio cyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol yn golygu ymgorffori arferion ecogyfeillgar mewn gweithrediadau busnes. Mae hyn yn cynnwys lleihau gwastraff, lleihau’r defnydd o ynni, defnyddio adnoddau adnewyddadwy a mabwysiadu technolegau gwyrdd. Mae hefyd yn cynnwys ystyried effaith amgylcheddol y gadwyn gyflenwi, cylch oes cynnyrch ac arferion busnes cyffredinol.

Drwy flaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol, mae cyflogwyr yn cyfrannu at yr ymdrechion i leihau newid yn yr hinsawdd, lleihau olion traed ecolegol a chreu planed iachach. Hefyd, mae’n alinio busnesau â disgwyliadau defnyddwyr sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ac mae’n helpu i ddatblygu delwedd gorfforaethol gadarnhaol. Gall cynnwys gweithwyr yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni polisïau ac arferion gwyrdd feithrin ymdeimlad o berchnogaeth a balchder wrth gyfrannu at ddyfodol gwyrddach.

Mae’r angen i leihau effaith amgylcheddol wedi ysgogi symudiad tuag at arferion cynaliadwy sy’n creu manteision i iechyd a llesiant yn y gweithle yn ogystal â’r amgylchedd ehangach. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae gweithlu iach, ymgysylltiol yn un o gonglfeini llwyddiant sefydliadol.

Mae cyflwyno ystod o fesurau cynaliadwy nid yn unig yn fuddiol i’r amgylchedd ond gall hefyd arwain at arbed costau, mwy o effeithlonrwydd ac ymgysylltiad gwell gan weithwyr yn ogystal â llesiant.

Nodau cynaliadwyedd amgylcheddol

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi pennu nodau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd fel rhan o Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 a fabwysiadwyd gan aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig yn 2015. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau byd-eang i Sero Net erbyn 2030. Gellir diffinio Sero Net fel cydbwyso faint o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru i’r atmosffer â’r rhai sy’n cael eu tynnu ohono. 

Mae gan sefydliadau gyfrifoldeb i weithredu arferion sy’n amgylcheddol gynaliadwy, er enghraifft cynyddu arbedion effeithlonrwydd:

  • Parhau i ddefnyddio deunyddiau ac osgoi gwastraff.
  • Buddsoddi i ddatgarboneiddio adeiladau a cherbydau.
  • Newid ymddygiad er mwyn i garbon isel ddod yn ddewis diofyn ym mhob cam gweithredu.
  • Newid ffyrdd o weithio gyda chyflenwyr a phartneriaid.

    Ymgorffori Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Lesiant yn y Gweithle

Beth all cyflogwyr ei wneud?

Mae’r adran ganlynol yn edrych ar y gwahanol ffyrdd y gall cyflogwyr wneud gweithleoedd yn fwy ecogyfeillgar ochr yn ochr â mabwysiadu arferion cynaliadwy fel dull o wella iechyd a llesiant cyffredinol gweithwyr.

Gall cyflogwyr gyflwyno ystod o fentrau sy’n hybu llesiant gweithwyr yn ogystal ag iechyd yr amgylchedd. Dyma rai strategaethau i’w hystyried:

 

Drwy weithredu’r strategaethau hyn gall cyflogwyr gyfrannu at lesiant eu gweithwyr a’r nod ehangach o gynaliadwyedd amgylcheddol. Mae’n hollbwysig cynnwys gweithwyr yn y broses, a meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ac ymgysylltiad a rennir.

 

Gwybodaeth bellach

Nodau trosfwaol y Ddeddf yw galluogi adnoddau yng Nghymru i gael eu rheoli mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydlynol a sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru sicrhau ei fod yn cyfrannu at amgylchedd naturiol iach ym mhopeth a wnânt. 

Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac yn cyflawni’r targed sero net erbyn 2030.

Er bod y ddogfen hon wedi’i thargedu at systemau iechyd yn bennaf, mae’n cynnig dealltwriaeth werthfawr i gyflogwyr sy’n ceisio meithrin amgylchedd gwaith sy’n canolbwyntio ar wella, cynnal, a/neu adfer iechyd wrth leihau’r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

Tudalennau cysylltiedig CIW

Mae cadw’n heini yn rhan bwysig o weithlu iach a busnes iach. Weithiau gall fod yn anodd canfod amser i wneud ymarfer corff yn ystod y dydd, felly gall helpu pobl i wneud hyn fod yn fuddiol i bawb.

Mae’r Canllaw Bwytan Iach (Saesneg yn unig) yn annog deiet sy’n seiliedig ar fwyta ffrwythau, llysiau, grawn cyflawn a phrotein o blanhigion a allai gyfrannu at ostyngiad o 7% mewn marwolaethau a gostyngiad o 30% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. (Saesneg yn unig)

Mae iechyd meddwl a llesiant wedi’u cydblethu’n agos â chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae mynediad i fyd natur, effaith straenachoswyr amgylcheddol megis llygredd a thywydd eithafol, a manteision seicolegol yn ymwneud ag ymddygiad cynaliadwy oll yn chwarae rhan wrth lunio’r berthynas rhwng iechyd meddwl a’r amgylchedd.