Neidio i'r prif gynnwy

Arferion Asesu Effeithiau ar Gydraddoldeb yng Nghymru


ARFERION ASESU EFFEITHIAU
AR GYDRADDOLDEB YNG NGHYMRU
 
Trwy Ganolfan yr Asesu Effeithiau ar Gydraddoldeb, mae modd dod o hyd i wybodaeth ac arferion o amryw sefydliadau yn y Deyrnas Gyfunol.


 
Mae’r tudalennau am arferion yn cynnig i gyrff y sector cyhoeddus adnoddau sy’n hybu ac yn hwyluso prosesau o safon i asesu effeithiau ar gydraddoldeb yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Cydraddoldeb 2011 Sector Cyhoeddus Cymru.  Bydd y ganolfan yn helpu i dderbyn prosesau asesu effeithiau ar gydraddoldeb yn rhan annatod o bolisïau ac arferion cyhoeddus yn ogystal â hybu cydraddoldeb a pholisïau teg ledled Cymru.

Er mwyn byrdra, mae’r wefan hon yn defnyddio’r term “polisi” fel term hollgynhwysol i gynnwys yr ystod lawn o benderfyniadau, swyddogaethau, a gweithgareddau (gan gynnwys darparu gwasanaethau) y mae cyrff cyhoeddus yn eu cyflawni, sy’n cael eu cwmpasu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
 

Dyletswyddau Penodol Cymru

I ategu’r ddyletswydd gyffredinol, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu ar gyfer dyletswyddau penodol sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru.

Asesiad Effaith Cydraddoldeb

Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG wedi llunio pecyn cymorth ‘8 Cam’ yn ôl dulliau a gwersi amryw ganllawiau cyhoeddedig.