Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswyddau Penodol Cymru

I ategu’r ddyletswydd gyffredinol, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu ar gyfer dyletswyddau penodol.  Gan fod y dyletswyddau hynny wedi’u datganoli, maen nhw’n wahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Yn Lloegr, mae Rheoliadau Dyletswyddau Penodol 2011 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gofyn i gyrff cyhoeddus gyhoeddi nodau cydraddoldeb a gwybodaeth sy’n dangos eu bod yn cadw at y ddyletswydd gyffredinol.  Yng Nghymru, mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn gryfach am fod ynddi ofynion am ymgysylltu (Rheoliad 5) ac asesu effeithiau ar gydraddoldeb (Rheoliad 8).

 

Rheoliad 5 (2) Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol)(Cymru)

Lle mae unrhyw ran o’r rheoliadau hyn yn mynnu i awdurdod gydymffurfio â gofynion i ymgysylltu wrth gynnal unrhyw weithgaredd (er enghraifft, rheoliad 4(1)(a)), bydd rhaid i’r awdurdod wneud y canlynol yn ystod y gweithgaredd:

   a. cynnwys pobl mae’r awdurdod o’r farn: 

  1.   eu bod yn cynrychioli buddiannau pobl ac iddyn nhw un nodwedd i’w diogelu neu ragor;
  2.   bod diddordeb gyda nhw yn y modd mae’r awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau;

   b. y dylai pobl eraill gymryd rhan fel y bo’n briodol.

   c. ymgynghori â phobl o’r fath fel y gwêl y briodol.
 

(3) Wrth ddod i benderfyniad yn ôl paragraff (2)(b) neu (c), rhaid i’r awdurdod roi ystyriaeth briodol i’r angen i gynnwys y bobl ganlynol neu ymgynghori â nhw (fel y bo’n briodol) cyhyd ag y bo modd:

   a. pobl ac iddyn nhw nodwedd i’w diogelu neu ragor;

   b. pobl a chanddyn nhw ddiddordeb yn y modd mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

 

Rheoliad 8 (1) Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol)(Cymru):

Rhaid i awdurdod drefnu fel y gwêl yn briodol ar gyfer:

   a. asesu effaith debygol ei bolisïau a’i arferion arfaethedig ar ei allu i gydymffurfio â’r ddyletswydd  gyffredinol;

   b. asesu effaith unrhyw: 

  1. polisi neu arfer mae’r awdurdod wedi penderfynu ei adolygu;
  2. newid mae’r awdurdod yn ei ystyried mewn polisi neu arfer, ynglŷn â’i allu i gydymffurfio a’r ddyletswydd;

   c. cadw golwg ar effaith ei bolisïau a’i arferion ar ei allu i gydymffurfio â’r ddyletswydd;

   d. cyhoeddi adroddiadau am unrhyw asesu sydd:

   e. yn berthnasol i is-baragraff (a) neu (b) uchod;

   f. yn dangos yr effaith neu’r effaith debygol (beth bynnag fo’n briodol)