Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Effaith Cydraddoldeb

Mae ymgymryd ag AEG llwyddiannus yn ymwneud ag ymgysylltu a chynnwys o’r dechrau. Mae llawer o ddulliau, nid oes angen i chi ddilyn proses neu ffurf benodol, o reidrwydd. Gall AEG gael ei addasu wrth i chi symud ymlaen, gan ddibynnu ar amgylchiadau eich practis. Gall yr 8 Cam i AEG fod yn lle defnyddiol i ddechrau, a’ch helpu i amlygu rhai cwestiynau a chysyniadau allweddol. Nid yw’n ymwneud â’r ffordd gywir neu anghywir, mae’n ymwneud â gwella.

Mae cynnal AEG yn ymwneud yn llai â chydymffurfiad a mwy â gwella gwasanaethau i bobl.  Mae’n ymwneud â dull tîm o weithio tuag at nodau cyfundrefnol, gan wneud y practis yn well ac yn decach i bobl. Mae dogfennau a chofnodion manwl yn bwysig, ond gan ddibynnu ar y sefyllfa bolisi, defnyddiwch ddulliau AEG sy’n gweddu orau i’ch practis. Dechreuwch drafodaeth, siaradwch â phobl am eich polisïau a gwnewch welliannau i gyfrannu at Gymru iachach, hapusach a thecach.