Neidio i'r prif gynnwy
Paul Veysey

Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd

Amdanaf i

Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd

Ar ôl hyfforddi yn ei ddinas enedigol, Caerdydd, cymhwysodd Paul Veysey fel cyfreithiwr yn 2004 a gweithiodd mewn practis preifat gan symud ymlaen i fod yn bartner cyflogedig yn 2011 cyn ymuno â'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2019.

Fel cyfreithiwr, mae gan Paul brofiad sylweddol o anghydfodau ymgyfreitha, llywodraethu a rheoleiddio'r sector cyhoeddus, gan iddo ddarparu ystod o wasanaethau cyfreithiol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr dros nifer o flynyddoedd.