Oherwydd cyngor newydd gan Brif Swyddogion Meddygol y DU ar 30 Rhagfyr 2020, mae angen i ni aildrefnu'r ail apwyntiad ar gyfer brechu coronafeirws i'r rhai sydd eisoes wedi cael un dos. Y cyngor meddygol newydd yw bod ail ddos y brechlyn yn parhau i fod yn effeithiol pan gaiff ei roi hyd at 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf, ac y dylid ei roi tuag at ddiwedd y cyfnod hwn o 12 wythnos. Bydd y canllawiau newydd yn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael budd o ddos cyntaf y brechlyn cyn gynted â phosibl. Os ydych wedi derbyn dos cyntaf, nid oes angen i chi gysylltu â'r bwrdd iechyd, byddwch yn cael eich aildrefnu'n awtomatig a'ch galw i'ch apwyntiad newydd.
Er bod angen dau ddos o'r brechlyn i gael yr amddiffyniad hirdymor gorau, yn y tymor byr bydd gan unigolion lefelau uchel o amddiffyniad o'r dos cyntaf a gafwyd. Nid oes unrhyw bryderon diogelwch yn y canllawiau newydd, ac ni fydd yn effeithio'n negyddol ar effeithiolrwydd y cwrs cyflawn o frechlyn COVID-19.
Mae'r bobl hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o gymhlethdodau COVID-19 yn cael cynnig y brechlyn yn gyntaf.
Yn y DU, mae dau frechlyn COVID-19 (sy'n cael eu gwneud gan Pfizer BioNTech ac AstraZeneca) yn debygol o gael eu cynnig yn gyntaf. Gyda'r ddau frechlyn, mae angen dau ddos ar wahân i ddarparu'r amddiffyniad gorau. Ni fydd gan y brechlynnau hyn awdurdodiad marchnata llawn (trwydded) y DU ond maent wedi'u hawdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn seiliedig ar asesiad llawn o ddiogelwch ac effeithiolrwydd.
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sef grŵp annibynnol o arbenigwyr, wedi argymell bod y GIG yn cynnig y brechlynnau hyn i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddal y clefyd ac o ddioddef cymhlethdodau difrifol neu farw o COVID-19, ac i amddiffyn y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys oedolion hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen. Pan fydd mwy o frechlyn ar gael, bydd y brechlynnau'n cael eu cynnig i bobl eraill sydd mewn perygl cyn gynted â phosibl.
Bydd pawb sydd yn y grŵp eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn gymwys i gael brechlyn COVID-19. Gall hyn ddibynnu ar ddifrifoldeb eich cyflwr. Gall eich meddyg teulu roi cyngor ynghylch a ydych yn gymwys.
Bydd brechlynnau COVID-19 ar gael wrth iddynt gael eu cymeradwyo i'w defnyddio, ac wrth i bob swp gael ei weithgynhyrchu a'i ddarparu. Bydd pobl yn cael eu galw mewn trefn, ac anfonir apwyntiad atoch pan ddaw eich tro cyn gynted ag y bydd digon o frechlyn ar gael.
Bydd brechlynnau'n cael eu cynnig mewn amrywiaeth o leoliadau. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd i'r ganolfan frechu agosaf. Bydd rhai timau brechu yn ymweld â phobl i gynnig y brechlyn, er enghraifft mewn cartrefi gofal.
Ceisiwch fynd i'r ganolfan frechu a gynigir i chi. Os na allwch fynd i'r ganolfan a gynigir i chi efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gael y brechlyn mewn lleoliad mwy cyfleus.
Na allwch, dim ond i grwpiau cymwys y mae'r brechiad COVID-19 ar gael am ddim drwy'r GIG.
You can find out more information about COVID-19 vaccines, including their contents and possible side effects at https://111.wales.nhs.uk/coronavirus(2019ncov)?locale=cy and www.gov.uk/government/collections/mhra-guidance-on-coronavirus-covid-19
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau a amheuir ar-lein yn https://coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk/ neu drwy lawrlwytho'r ap Cerdyn Melyn.
I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio'ch gwybodaeth, ewch i www.nhsdirect.wales.nhs.uk/lifestylewellbeing/yourinfoyourrights
I archebu rhagor o gopïau o'r daflen hon, ewch i https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/adnoddau-gwybodaeth-iechyd/