Neidio i'r prif gynnwy

Goruchwyliaeth ac epidemioleg rwbela

Epidemioleg

Cyn cyflwyno imiwneiddio rheolaidd, roedd rwbela yn gyffredin ymhlith plant pedair i naw oed. Digwyddai epidemig o rwbela bob 6 i 9 mlynedd.

Cyflwynwyd imiwneiddio rhag rwbela yn y DU yn 1970 ar gyfer merched cyn cyrraedd eu harddegau a merched heb imiwnedd mewn oedran cael plant, i'w gwarchod rhag risgiau rwbela yn ystod beichiogrwydd. Cyn cyflwyno imiwneiddio rhag rwbela, roedd cymaint â 70 o achosion o Syndrom Rwbela Cynhenid ​​(CRS) yn ystod blynyddoedd yr epidemig; roedd cymhareb erthyliadau therapiwtig i achosion o CRS tua 10:1, sy'n golygu, o'r 70 achos o CRS, y byddai 700 beichiogrwydd pellach wedi'u terfynu.

Yn 1988, roedd cyflwyno MMR fel rhaglen imiwneiddio gyffredinol yn ychwanegu at y polisi imiwneiddio dethol blaenorol. Y nod oedd dileu rwbela. Dilynodd gostyngiad sylweddol mewn rwbela ymhlith plant ifanc ond, yn 1993, bu cynnydd mawr mewn hysbysiadau ac achosion o rwbela a gadarnhawyd mewn labordy, a dilynwyd hyn gan ymgyrch imiwneiddio’r Frech Goch a Rwbela (MR) mewn ysgolion yn 1994.

Digwyddodd mwyafrif yr achosion hyn ymhlith dynion mewn colegau a phrifysgolion, nad oeddent wedi cael cynnig brechlyn yn cynnwys rwbela o'r blaen. Fodd bynnag, roedd cynnydd hefyd yn nifer yr adroddiadau am heintiau rwbela ymhlith merched beichiog yn y DU. Cynyddodd y rhain o 2 yn 1992 i 23 yn 1993; roedd 8 achos yn 1995.

Yn 1996 ychwanegwyd ail ddos ​​o MMR at yr imiwneiddio cyn-ysgol. Ers 1996 mae haint rwbela sy’n cael ei gadarnhau wedi dod yn brin iawn ac mae terfyniadau a genedigaethau yr effeithir arnynt gan CRS wedi gostwng i lefelau isel iawn.

Yng Nghymru, mae nifer yr achosion o rwbela sy’n cael eu cadarnhau yn isel gyda naw achos wedi'u cofnodi rhwng 2000 a 2005; ac ni chadarnhawyd unrhyw achosion ers yr amser hwn.

 

Rwbela yng Ngymru

Hysbysiadau

 

Cadarnhad mewn labordai

Siart llinell yn dangos y cyfradd Rwbela am bob 100,000 o boblogaeth wedi ei gadarnhau yng Nghymru yn 12.3 yn 1996, dan 0.15 am 1997-2006, i 0 o 2006-2021

Cadarnhad yn labordy UKHSA
Blwyddyn Nifer o achosion Cyfradd am bob 100,000 o boblogaeth
1996 355 12.30
1997 4 0.14
1998 2 0.07
1999 3 0.10
2000 1 0.03
2001 4 0.14
2002 0 0.00
2003 2 0.07
2004 0 0.00
2005 2 0.07
2006-2021 0 0.01

Ffynonellau data goruchwyliaeth ar gyfer Cymru

Mae rwbela yn un o nifer o afiechydon hysbysadwy. Mae gan feddygon yng Nghymru ddyletswydd statudol i hysbysu 'Swyddog Priodol' yr Awdurdod Lleol am achosion a amheuir o rwbela yn seiliedig ar symptomau clinigol, fel rheol cyn i'r diagnosis gael ei gadarnhau gan brofion labordy.

Gofynnir am samplau hylif geneuol gan bob claf yng Nghymru (a Lloegr) sydd ag amheuaeth o rwbela os na chafwyd cadarnhad drwy ddulliau eraill. Anfonir y samplau i UKHSA yn Colindale am gadarnhad o haint rwbela.

Dyma'r data a ddefnyddir i gynhyrchu'r graff tueddiadau a'r tablau data cysylltiedig ar y wefan hon.

 

Imiwneiddio rhag rwbela

Gellir atal rwbela gyda brechlyn hynod effeithiol a diogel. Mae hyn yn rhan o'r imiwneiddiad rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) gyda dos cyntaf tua 13 mis oed ac ail ddos (atgyfnerthu) tua thair blwydd a hanner. Mae oedolion ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi methu eu brechlyn MMR yn blant hefyd yn cael eu hannog i gael eu himiwneiddio.

Bydd cwrs cyflawn o'r ddau ddos yn gwarchod mwy na 95% o blant rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.

Mae’r nifer sy’n cael y brechlyn MMR (a brechlynnau plentyndod eraill) yng Nghymru wedi’i gofnodi yn adroddiad COVER (Coverage of Vaccination Evaluation Rapidly). Cyhoeddir hwn yn chwarterol ac yn flynyddol. Defnyddiwch y ddolen isod i weld holl adroddiadau COVER o 2003 hyd yma.

Mwy o wybodaeth am y brechlyn MMR.