Neidio i'r prif gynnwy

Argyfwng iechyd meddwl sy'n tyfu ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru

Amcangyfrifir bod gan fwy na 135,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru gyflwr iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn anawsterau emosiynol fel gorbryder, ochr yn ochr â chynnydd mewn anhwylderau bwyta ac ymddygiadau hunan-niweidio ar draws pob rhyw. Mae merched, pobl ifanc anneuaidd, a'r rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu heffeithio'n anghymesur, gyda symptomau'n ymddangos pan mae unigolion yn iau ac wedi gwreiddio’n ddwfn erbyn llencyndod.

Mae'r canfyddiadau wedi'u nodi yn yr Asesiad Anghenion Iechyd:  Mae’r adroddiad Iechyd Meddwl Babanod, Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, yn tynnu ar y data a'r dystiolaeth ddiweddaraf i nodi graddfa'r angen iechyd meddwl ar draws pob cyfnod o fywyd, o'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd hyd at oedolaeth gynnar. Mae’n gwneud argymhellion ar gyfer camau cydlynol sydd angen eu rhoi ar waith ar draws iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus ehangach.

Mae'r adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod gan 1 o bob 6 o blant rhwng 8 a 10 oed, 1 o bob 5 rhwng 11 ac 16 oed, ac 1 o bob 4 rhwng 17 a 24 oed, gyflwr iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio. Amcangyfrifir bod 1 o bob 4 merch ac 1 o bob 2 o ddysgwyr ysgol uwchradd traws neu sy'n cwestiynu rhywedd yn profi llesiant meddyliol isel. Hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, amcangyfrifwyd bod problemau iechyd meddwl yn costio £4.8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, costau sydd wedi codi ers hynny.

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr ystod gymhleth o ffactorau sy'n ysgogi’r tueddiadau hyn, sy’n cynnwys tlodi plant, anghydraddoldeb cymdeithasol, pwysau academaidd, anawsterau iechyd meddwl rhieni a thechnoleg ddigidol. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd cynnar, cysylltiad cymunedol, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd ar gyfer creadigrwydd fel ffactorau amddiffynnol.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd hanfodol blynyddoedd cynharaf bywyd. Mae tua 25–30 y cant o berthnasoedd rhiant-baban yn debygol o elwa ar gefnogaeth yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf, ond mae'n annhebygol y bydd dwy ran o dair yn derbyn y gefnogaeth honno cyn dwy oed. Mae cryfhau'r berthynas rhwng rhiant a baban a buddsoddi mewn cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar yn gost-effeithiol ac yn darparu manteision parhaol i ganlyniadau cymdeithasol, emosiynol a datblygiadol plant.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu bod angen inni flaenoriaethu iechyd a llesiant babanod, plant a phobl ifanc er mwyn iddynt allu ffynnu heddiw a llunio cymunedau gwydn yfory.  
Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Llesiant Meddwl Arweiniol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gormod o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn profi trallod, llesiant meddwl isel a chyflyrau iechyd meddwl. Mae'r bobl ifanc hyn wedi wynebu heriau mawr iawn gan gynnwys y pandemig, ansicrwydd ariannol ac amgylcheddau digidol heriol.

“Ein pobl ifanc yw ein dyfodol, ac maen nhw angen cefnogaeth wrth iddyn nhw wynebu’r  heriau hyn. Mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar eu pryderon ac yn eu cefnogi.

“Mae angen rhoi llesiant meddyliol wrth wraidd polisi cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac mae hynny’n dechrau o flynyddoedd cynnar iawn bywyd.”

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd yn Mind Cymru: “Rydym wedi gwybod ers peth amser nad yw gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc wedi bod yn cadw i fyny â lefel y galw yng Nghymru. Mae rhaglen hunangymorth dan arweiniad Mind Cymru ei hun ar gyfer pobl ifanc 11–18 oed wedi dangos y gall darparu cefnogaeth yn y ffordd gywir fod yn drawsnewidiol, gyda 70 y cant o gyfranogwyr yn profi llesiant gwell.

“Yr hyn y mae canfyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ddangos i ni yw bod lefel sylfaenol yr angen heddiw yn golygu bod yn rhaid canolbwyntio’n ddiwyro ar fynd i’r afael â’r rhwystrau er mwyn cael mynediad at gymorth y mae plant a phobl ifanc yn parhau i’w hwynebu, a buddsoddi ynddynt. Edrychwn ymlaen at weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd Dr Jen Daffin, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymgyrchoedd yn yr elusen iechyd meddwl Platfform: "Mae angen i ni gydnabod effaith trawma, anghydraddoldeb a phrofiadau bywyd ar iechyd meddwl. Mae'n anodd i rieni fod ar eu gorau i'w plant pan maen nhw'n poeni am dalu biliau neu gadw to uwch eu pennau. 

“Dyma sut y gallwn ni droi’r llanw ar y lefelau cynyddol o afiechyd meddwl ac amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yma yng Nghymru.

"Yr hyn mae'r adroddiad hwn yn ei atgyfnerthu yw mai'r bobl a'r pethau o'n cwmpas sy'n hanfodol i'n hiechyd meddwl. Mae gennym ni i gyd, gan gynnwys babanod, yr hawl i iechyd da. Rydym yn croesawu'r ffocws ar greu'r amgylchiadau cywir i ni i gyd ffynnu."

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl, mae cymorth a chefnogaeth ar gael:

  • GIG 111 (pwyswch 2) – i gael mynediad brys at weithiwr gofal iechyd meddwl proffesiynol, sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i bobl o bob oed ledled Cymru
  • FFONIWCH Linell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru – cymorth a chyngor emosiynol cyfrinachol, 24/7. Rhadffôn 0800 132 737 neu anfonwch neges destun gyda’r gair “help” i 81066. Ceir rhagor o wybodaeth yn www.callhelpline.org.uk