Neidio i'r prif gynnwy

Ffliw/COVID-19 Un

Wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor ffliw 2023-24
Mae'r wybodaeth yn y fersiwn yma o Ffliw / COVID-19 Un yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol ar 30.08.2023. 

Disgrifiad: Mae Ffliw / COVID-19 Un yn esbonio pam mae brechiadau'r ffliw a COVID-19 mor bwysig i bob aelod o staff. 

Addas ar gyfer: Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer holl weithwyr GIG Cymru, gweithwyr gofal iechyd nad ydynt yn rhan o'r GIG, pobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, ym maes gofal cymdeithasol ac yn y trydydd sector / sector gwirfoddol.

Hyd: 10 munud

Cofrestru: Gall staff GIG Cymru gael mynediad i'r modiwl drwy'r ESR. I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs drwy ESR cliciwch yma. Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru i gael mynediad i wefan Learning@Wales. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar eAteb@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 02920 905444, neu mae sgwrs fyw ar gael ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a'ch man gwaith a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych chi gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gydag e-bost .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunangofrestru.

Allweddi cofrestru Learning@Wales: Cliciwch ar enw'r cwrs a byddwch yn cael eich annog ar gyfer allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisau meddygon teulu yw cod W eich practis ac wedyn ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill, os ydych chi'n ansicr ynghylch eich allwedd cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar eAteb@wales.nhs.uk

I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad i’r cwrs drwy blatfform Learning@Wales cliciwch yma.