Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.  

Brechiadau yn ystod beichiogrwydd – Gwybodaeth i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol

On this page:

Cefndir 

Mae brechiadau'n achub bywydau ac yn un o'r ymyriadau iechyd y cyhoedd mwyaf effeithiol yn fyd-eang.  

Mae brechu yn ystod beichiogrwydd yn nodi dechrau taith imiwneiddio baban. Mae'n ffordd ddiogel ac effeithiol o helpu i amddiffyn mamau a'u babanod rhag risg clefydau y gellir eu hatal drwy frechu. Mae'r amddiffyniad hwn yn ymestyn o feichiogrwydd ac i wythnosau cyntaf bywyd babanod cyn eu brechiadau arferol yn wyth wythnos oed. 

Mae bydwragedd a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn chwarae rhan allweddol fel lleisiau dibynadwy mewn gofal mamolaeth. Maent yn ffynonellau gwybodaeth pwysig ac yn ganolog i hyrwyddo brechu mamau a chefnogi menywod beichiog a'u teuluoedd i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. 

Dylid cynnig brechlynnau a argymhellir cyn gynted ag y bydd menyw yn gymwys i helpu i sicrhau'r amddiffyniad gorau. Fodd bynnag, os collir brechlyn ar yr amser a argymhellir, gellir ei roi'n ddiweddarach o hyd. Dylid gwneud pob ymdrech i nodi a chefnogi menywod sydd wedi colli brechiadau.  

Pam brechu yn ystod beichiogrwydd? 

Yn ystod beichiogrwydd, mae'r system imiwnedd yn newid i gefnogi datblygiad y ffetws. Gall y newidiadau hyn wneud y fenyw feichiog yn fwy agored i haint. Gall hyn effeithio'n negyddol ar y fam a'r baban.  

Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu trwy: 

  • Atal morbidrwydd a marwolaethau mamol drwy amddiffyn y fam rhag salwch difrifol neu farwolaeth a achosir gan glefydau heintus. 
  • Atal canlyniadau gwael i feichiogrwydd a ffetws fel genedigaeth gynamserol a phwysau geni isel sy'n gysylltiedig â chlefydau heintus.  
  • Darparu imiwnedd goddefol i'r babi wrth i wrthgyrff o'r fam basio trwy'r brych gan helpu i amddiffyn babanod yn ystod wythnosau cyntaf bywyd. 

Brechlynnau a argymhellir yn ystod beichiogrwydd: 

Yng Nghymru, cynigir tri brechiad fel mater o drefn yn ystod beichiogrwydd.  

O Hydref 2025 ymlaen, sylwch na fydd brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig i fenywod beichiog, oni bai bod ganddynt system imiwnedd wan o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn natganiad y JCVI ar frechlyn COVID-19. 

Brechlyn 

Pryd mae'r brechlyn yn cael ei gynnig 

Y pas (pertwsis) 

Wedi'i gynnig o 16 wythnos. 

Gweler 'Brechlyn Pertwsis (y pas)' isod am ragor o wybodaeth.

RSV (feirws syncytiol anadlol) 

Wedi'i gynnig o 28 wythnos. 

Gweler 'Brechlyn feirws syncytiol anadlol (RSV)' isod am ragor o wybodaeth.    

Ffliw (firws ffliw) 

Wedi'i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). 

Gweler 'Brechlyn ffliw' isod am ragor o wybodaeth.    

Brechlyn pertwsis (y pas)  

Mae'r brechlyn pertwsis (y pas) yn amddiffyn rhag pertwsis ac yn cael ei gynnig drwy gydol y flwyddyn. Dylid ei gynnig gyda phob beichiogrwydd.  

Argymhellir y brechlyn pertwsis rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd.  

Y brechlyn a argymhellir ar gyfer pertwsis yw brechlyn cyfun sy'n amddiffyn rhag tetanws a difftheria hefyd.  

Mae petrwsis yn effeithio amlaf ar fabanod, a babanod ifanc iawn o dan 6 mis oed sydd mewn mwyaf o berygl o gymhlethdodau difrifol, mynd i'r ysbyty, neu farwolaeth. Mae brechu mamol yn erbyn pertwsis yn amddiffyn babanod nes iddynt dderbyn brechlyn sy'n cynnwys pertwsis yn 8 wythnos oed.  

Mae'r brechlyn yn amddiffyn babanod trwy hybu imiwnedd pertwsis mewn menywod beichiog, sy'n galluogi'r fam i drosglwyddo gwrthgyrff pertwsis ar draws y brych i'w baban cyn ei eni. Er y bydd y rhan fwyaf o fenywod wedi cael eu brechu neu wedi dod i gysylltiad â phertwsis naturiol yn ystod plentyndod, bydd derbyn brechlyn sy'n cynnwys pertwsis o wythnos 16 eu beichiogrwydd yn rhoi hwb i'w lefelau gwrthgyrff. 

Argymhellir rhoi'r brechlyn cyn 32 wythnos o feichiogrwydd i gynyddu'r tebygolrwydd y bydd y baban wedi'i amddiffyn o’i enedigaeth. Fodd bynnag, gellir rhoi brechiad yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd a hyd at 8 wythnos ar ôl yr enedigaeth. Er efallai na fydd hyn yn darparu cymaint o amddiffyniad i fabanod, yn enwedig os cânt eu geni'n gynamserol, mae'n dal i gynnig amddiffyniad uniongyrchol i'r fam, gan leihau'r risg o drosglwyddo'r haint i'r baban. 

Am ragor o wybodaeth am y brechlyn pertwsis, cefndir y clefyd ac am y brechlyn, ewch i Brechlyn Y Pas – Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Brechlyn Feirws Syncytiol Anadlol (RSV)  

Mae'r brechlyn feirws syncytiol anadlol (RSV) yn amddiffyn rhag haint RSV ac yn cael ei gynnig drwy gydol y flwyddyn. Dylid ei gynnig ym mhob beichiogrwydd.  

Argymhellir y brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd ond gellir ei roi cyn rhyddhau o wasanaethau bydwreigiaeth. 

Er y gall RSV ddigwydd ar unrhyw oedran, babanod o dan flwydd oed sydd mewn mwyaf o berygl o salwch difrifol a mynd i'r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys bronciolitis, sef llid a chulhau'r llwybrau anadlu bach yn yr ysgyfaint a all achosi anawsterau anadlu a bwydo. 

Argymhellir y brechlyn RSV yn wythnos 28 neu'n fuan wedi hynny. Mae hyn yn caniatáu digon o amser i'r fam gynhyrchu lefelau uchel o wrthgyrff ac i'r rhain drosglwyddo ar draws y brych, gan gynnwys os caiff y baban ei eni'n gynamserol.  

Gall menywod barhau i gael y brechlyn yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys ar ôl 36 wythnos o feichiogrwydd, er y gallai hyn ddarparu lefelau is o amddiffyniad goddefol i'r baban. Gall brechlynnau a roddir i'r fam yn agos at yr enedigaeth, gan gynnwys yn fuan ar ôl yr enedigaeth, gynnig amddiffyniad anuniongyrchol o hyd trwy atal haint mamol a thrwy ganiatáu i wrthgyrff drosglwyddo trwy laeth y fron.  

Am ragor o wybodaeth am y brechlyn RSV, gan gynnwys cefndir y clefyd ac am y brechlyn, ewch i Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Brechlyn ffliw 

Mae'r brechlyn ffliw yn amddiffyn rhag ffliw tymhorol. Argymhellir y brechlyn ffliw yn ystod tymor y ffliw, rhwng mis Medi a mis Mawrth. Gellir rhoi'r brechlyn yn ddiogel yn ystod unrhyw gyfnod o feichiogrwydd a dylid ei gynnig ym mhob beichiogrwydd.  

Mae haint ffliw yn ystod beichiogrwydd yn gysylltiedig â risgiau uwch o farwolaeth amenedigol, genedigaeth gynamserol, pwysau geni isel, a maint babanod llai, yn ogystal â chymhlethdodau difrifol a derbyniadau gofal dwys i'r fam a'r baban. 

Argymhellir brechlynnau ffliw wedi'i anactifadu yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, ni ddangosodd astudiaeth o weinyddu Brechlyn Ffliw Gwanedig Byw (LAIV) i fenywod beichiog unrhyw dystiolaeth o niwed. Mae'r feirysau yn LAIV wedi'u gwanhau ac wedi’u haddasu i atgynhyrchu yn nhymheredd oerach y trwyn yn unig, felly ni allant luosi'n effeithiol mewn mannau eraill yn y corff. O ganlyniad, nid oes risg ddamcaniaethol i'r baban yn y groth na'r fam. Fodd bynnag, brechlynnau wedi'u hanactifadu yw'r opsiwn a ffefrir yn ystod beichiogrwydd. 

Am ragor o wybodaeth am y brechlyn ffliw, gan gynnwys cefndir y clefyd ac am y brechlyn, ewch Y ffliw - Gwybodaeth i weithwyr iechyd sy'n gymwys ar gyfer y brechlyn - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

A ellir rhoi brechlynnau ar yr un pryd yn ystod beichiogrwydd? 

Gellir cyd-weinyddu'r brechiad mamol a argymhellir yn erbyn pertwsis, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) a'r ffliw os oes angen. Gall menywod beichiog sy'n gymwys am frechlyn COVID-19 oherwydd bod ganddynt system imiwnedd wan (o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth) dderbyn y brechlyn COVID-19 ar yr un pryd â'r brechlynnau eraill sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd.

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gallai rhoi Feirws Syncytiol Anadlol ar yr un pryd â brechlynnau sy'n cynnwys pertwsis leihau'r ymateb a geir i'r cydrannau pertwsis. Fodd bynnag, nid yw'r arwyddocâd clinigol yn glir ac mae'n debygol y bydd yr effaith ar amddiffyniad yn fach.  

Er mwyn optimeiddio'r ymateb imiwnedd, dylid rhoi brechlynnau ar yr adegau a argymhellir lle bo modd er mwyn osgoi gwanhau'r ymateb gwrthgyrff o bosibl. Fodd bynnag, os nad yw menyw feichiog wedi derbyn brechlyn pertwsis erbyn iddi gyflwyno i gael y brechlyn Feirws Syncytiol Anadlol, gellir, a dylid, eu rhoi ar yr un pryd. 

A yw bwydo ar y fron ar ôl brechu mam yn ddiogel? 

Gellir rhoi pob brechlyn mamol a argymhellir yn ddiogel i fenywod sy'n bwydo ar y fron.  

Gall y gwrthgyrff a gynhyrchir trwy frechu gael eu trosglwyddo i'r baban, a darparu amddiffyniad rhag pertwsis, Feirws Syncytiol Anadlol, a’r ffliw.  

Ni ddylai menywod roi'r gorau i fwydo ar y fron cyn eu brechiad a gallant barhau i fwydo ar y fron ar ôl y brechiad.  

Diogelwch brechlynnau mamol 

Mae brechlynnau mamol a gynigir yng Nghymru yn dilyn argymhellion cenedlaethol a rhyngwladol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Maent yn ddiogel i'w rhoi yn ystod beichiogrwydd ac maent wedi cael profion trylwyr am ddiogelwch gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) (safle allanol, Saesneg yn unig). Nid ydynt yn cynnwys feirysau byw, felly ni allant achosi'r clefydau y maent yn amddiffyn yn eu herbyn.  

Mae sgîl-effeithiau fel arfer yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig. 

Canllawiau 

Mae gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â gofal mamolaeth gyfle i wneud gwahaniaeth drwy gefnogi brechu yn ystod beichiogrwydd. Drwy rannu gwybodaeth glir, ddibynadwy a chefnogi mynediad at frechiadau, gall gweithwyr proffesiynol chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu iechyd mamau a'u babanod. 

Penodau Llyfr Gwyrdd 

Mae 'Imiwneiddio yn Erbyn Clefydau Heintus', a elwir hefyd yn Y Llyfr Gwyrdd, yn darparu gwybodaeth am frechlynnau ar gyfer clefydau y gellir eu hatal drwy frechlyn. Gallwch ddarllen y penodau perthnasol yn Immunisation against infectious disease - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)  

Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio. Darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI yn Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)  

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru  

Mae Cylchlythyrau Iechyd Cymru yn darparu canllawiau a chyfarwyddiadau i sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru ar wahanol agweddau ar ddarparu a pholisi gofal iechyd. Darllenwch gyhoeddiadau yn y cylchlythyrau Iechyd: 2024 i 2027 | LLYW.CYMRU (safle allanol)  

Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif 

Gall defnyddio'r dull Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) i gefnogi sgyrsiau am frechu yn ystod beichiogrwydd. Mae MECC yn ddull o newid ymddygiad sy'n annog gweithwyr proffesiynol i gael sgyrsiau ystyrlon am wneud dewisiadau cadarnhaol am eu hiechyd a'u llesiant, gan gynnwys penderfyniadau am frechu. 

Am ragor o wybodaeth am MECC, ewch i Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif - Iechyd Cyhoeddus Cymru (Seasneg yn unig) 

Ffynonellau eraill o wybodaeth ac arweiniad 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi sgyrsiau am frechu yn ystod beichiogrwydd gan gynnwys taflenni, posteri a fideos. 

Poster brechlynnau mamau ar gyfer bydwragedd

 

 

Lawrlwythwch y poster

Adnoddau hyfforddiant a digwyddiadau 

Mae modd cael mynediad at gyrsiau a deunyddiau hyfforddi ar-lein drwy'r dudalen E-ddysgu.  

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio.

Os ydych chi'n newydd i imiwneiddio, bydd angen i chi gwblhau'r rhaglen Imiwneiddio ar gyfer imiwneiddwyr newydd, sydd ar gael yn E-ddysgu Imiwneiddio - Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Atodiad A: Vaccinator competency assessment tool (safle allanol, Saesneg yn unig)  

Cysylltiadau lleol  

Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth yn lleol trwy dimau brechlynnau lleol. Am gysylltiadau brechlyn yn eich bwrdd iechyd, ewch i gysylltiadau brechlyn 

Data a gwyliadwriaeth