Ar y dudalen
Cyflwynwyd y brechlyn MMR yn 1988. Mae'r brechlyn yn baratoad byw o’r frech goch, clwy'r pennau a rwbela wedi'i sych-rewi ar ffurf brechlyn byw wedi’i wanhau. Mae'n hynod effeithiol ac mae ganddo enw rhagorol o ran diogelwch.
Mae dau frechlyn MMR yn cael eu hargymell ar hyn o bryd i’w defnyddio yn y DU sef MMR VaxPRO a Priorix.
Dylai pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wneud i bob cyswllt gyfrif a manteisio ar gyfleoedd presennol i wirio statws brechu a rhoi neu drefnu brechlyn MMR (dau ddos os oes angen) ar gyfer:
Dylid defnyddio’r MMR i amddiffyn merched o oedran cael plant a gweithwyr gofal iechyd rhag haint rwbela.
Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. MMR).
Cylchlythyrau iechyd: 2020 i 2023 | LLYW.CYMRU
Cylchlythyrau iechyd: 2024 i 2027 | LLYW.CYMRU
Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau.