Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Mae newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru yn digwydd yn ystod 2025 a 2026.
Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:
I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, yn cynnwys tabl ar gymhwysedd ar gyfer y brechlyn MMR, ewch i Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Gwybodaeth i weithwyr iechyd
Mae rhagor o fanylion am yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru hefyd ar gael yn Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant
Ar y dudalen
Mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn glefydau hysbysadwy yn y DU.
Mae'r frech goch yn un o'r clefydau trosglwyddadwy mwyaf heintus. Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu drwy drosglwyddiad drwy’r awyr neu drwy ddefnynnau. Mae ganddo gyfnod magu o oddeutu deg diwrnod.
Mae'r frech goch yn cael ei hachosi gan morbilifeirws sy’n perthyn i’r teulu paramycsofeirws. Nodweddir y cyfnod rhagarwyddol gan dwymyn yn dechrau, anhwylder, annwyd, llid yr amrannau a pheswch. Mae'r frech yn dechrau ar y pen, ac yna’n lledaenu i'r trwnc a'r aelodau dros gyfnod o dri i bedwar diwrnod.
Gall smotiau Koplik (smotiau bach coch gyda chanol glas/gwyn) ymddangos ar bilenni mwcaidd y geg un i ddau ddiwrnod cyn i'r frech ymddangos.
Mae unigolion yn heintus o ddechrau'r cyfnod rhagarwyddol (pan fydd y symptom cyntaf yn ymddangos) hyd at bedwar diwrnod ar ôl ymddangosiad y frech.
Mae'r nodweddion canlynol yn arwyddion cryf bod y frech goch ar unigolyn:
Mae clwy'r pennau yn salwch feirysol acíwt sy’n cael ei achosi gan baramycsofeirws, sy’n cael ei nodweddu gan chwydd yn y chwarennau parotid. Gall symptomau fel twymyn, cur pen/pen tost, anhwylder, myalgia a diffyg archwaeth ymddangos hefyd. Mae achosion asymptomatig yn gyffredin mewn plant.
Mae clwy'r pennau yn lledaenu trwy drosglwyddiad trwy’r awyr neu drwy ddefnynnau. Mae ganddo gyfnod magu o oddeutu 17 diwrnod. Mae pobl yn heintus o ychydig ddyddiau cyn i’r chwydd ddechrau yn y chwarennau parotid ac am ychydig ddyddiau wedi hynny.
Mae feirws clwy'r pennau yn aml yn effeithio ar y system nerfol. Gall cymhlethdodau niwrolegol ddigwydd, yn cynnwys llid yr ymennydd ac enseffalitis.
Mae cymhlethdodau cyffredin yn cynnwys pancreatitis, öofforitis, ac orcitis. Mae byddardod synwyrnerfol, neffritis, cymalwst, annormaleddau cardiaidd, ac yn anaml, farwolaeth, wedi cael eu hadrodd.
Mae rwbela yn cael ei achosi gan togafeirws. Gall ddechrau gyda symptomau amhenodol fel twymyn gradd isel, anhwylder, annwyd, a llid yr amrannau ysgafn. Mae'r frech fel arfer yn para am gyfnod byr, ac i’w weld y tu ôl i'r clustiau, ar yr wyneb ac ar y gwddf. Gall diagnosis clinigol fod yn annibynadwy oherwydd natur fyrhoedlog y frech.
Mae rwbela yn lledaenu trwy ddefnynnau anadlol. Mae ganddo gyfnod magu o 14 i 21 diwrnod.
Mae cymhlethdodau'n cynnwys lefel isel o blatennau yn y gwaed (thrombocytopenia) ac enseffalitis ar ôl yr haint. Gall arthritis ac arthralgia ddigwydd mewn oedolion.
Gall haint rwbela yn ystod beichiogrwydd arwain at golli’r ffetws neu Syndrom Rwbela Cynhenid (CRS), sy'n gallu achosi cataractau, byddardod, annormaleddau cardiaidd, microceffali, arafwch twf, a briwiau llidiol. Gall haint yn ystod wyth i ddeg wythnos gyntaf beichiogrwydd achosi niwed mewn hyd at 90% o fabanod sy'n goroesi, gan arwain yn aml at nifer o namau.
Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun diogel ac effeithiol sy'n helpu i amddiffyn rhag tri chlefyd difrifol: y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.
Hyd at 31 Rhagfyr 2025: Mae’r dos cyntaf o'r brechlyn MMR yn cael ei roi i fabanod 12 mis oed, a rhoddir yr ail ddos pan fyddant yn 3 blwydd a 4 mis oed.
O 1 Ionawr 2026:
Mae Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn ar gyfer Cymru ar gael ar ein gwefan yn: Amserlenni imiwneiddio arferol i Gymru
Os hoffech gael rhagor o fanylion am y newidiadau hyn, gan gynnwys tabl sy'n amlinellu cymhwysedd i gael y brechlyn MMR, ewch i: Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Gwybodaeth i weithwyr iechyd
I gael atebion i gwestiynau cyffredin am MMR, yn cynnwys diweddariadau i’r amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru, dilynwch y dolenni canlynol:
Mae’r dos cyntaf o'r brechlyn MMR yn cael ei gynnig i fabanod rhwng 12 a 13 mis oed. Erbyn yr oedran hwn bydd yr imiwnedd yn erbyn y clefydau hyn a gafodd y baban gan ei fam wedi pylu.
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi argymell bod yr oedran y mae plant yn cael eu hail ddos o’r brechlyn MMR yn newid o 3 blynedd a 4 mis oed i 18 mis oed.
O 1 Ionawr 2026 ymlaen, bydd plant yn cael eu hail ddos o'r brechlyn MMR pan fyddant yn 18 mis oed.
Penderfynwyd rhoi’r ail ddos o'r brechlyn MMR yn gynt er mwyn gwella’r cwmpas brechu a lleihau achosion o'r frech goch. Cynyddodd y cwmpas brechu mewn ardaloedd o Lundain lle mae hyn eisoes wedi'i wneud. Mae sicrhau bod nifer uchel o fabanod yn cael y brechlyn yn hanfodol. Mae'r JCVI yn credu bod y budd posibl o gynyddu cwmpas y brechlyn MMR yn cyfiawnhau'r apwyntiad imiwneiddio rheolaidd ychwanegol i fabanod 18 mis oed.
Cyflwynwyd y brechlyn MMR yn 1988. Mae'r brechlyn yn baratoad byw o’r frech goch, clwy'r pennau a rwbela wedi'u sychrewi ar ffurf brechlyn gwanedig byw. Mae'n hynod effeithiol ac mae ganddo record diogelwch rhagorol.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael ym mhenodau’r Llyfr Gwyrdd ar gyfer pob clefyd. Gweler yr adran adnoddau a gwybodaeth glinigol.
Mae dau frechlyn MMR yn cael eu hargymell i'w defnyddio yn y DU ar hyn o bryd. Sef:
Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd yn disodli'r crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC).
Mae'n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi'r cynnyrch meddyginiaethol. Mae'n galluogi’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol i gael ei fonitro’n barhaus. Dylech adrodd am amheuon am sgil-effeithiau brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn: mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Dylai pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wneud i bob cyswllt gyfrif a manteisio ar gyfleoedd presennol i wirio statws brechu a rhoi neu drefnu brechiadau MMR ar gyfer:
Dylid defnyddio’r brechlyn MMR i amddiffyn menywod o oedran magu plant a gweithwyr gofal iechyd rhag haint rwbela.
I gael manylion ynghylch y newidiadau i'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru, gweler: Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant: Datganiad JCVI - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol - Saesneg yn unig)
Mae argymhellion ynghylch y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod.
Y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (safle allanol - Saesneg yn unig) (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau gan y JCVI; chwiliwch am e.e.MMR)
Yr Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawnyn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd ac anrheolaidd.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
Gellir dod o hyd i bolisi a chanllawiau hefyd ar dudalen Polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru SharePoint Iechyd Cyhoeddus Cymru (mynediad i staff gofal iechyd y GIG)
Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy'r dudalen E-ddysgu.
Rhoddir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant yn ymwneud ag ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddiant.
UK measles and rubella elimination indicators and status - GOV.UK (safle allanol - Saesneg yn unig)
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol)