Ar y dudalen
Mae difftheria, tetanws, a poliomyelitis yn afiechydon hysbysadwy.
Haint acíwt yw difftheria sydd fel rheol yn effeithio ar y nasoffaryncs a achosir gan y bacteriwm Corynebacterium diphtheria, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau anadlol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i bum diwrnod.
Mae tetanws yn haint a nodweddir gan gyfangiadau cyhyrol poenus. Mae’n cael ei achosi gan y bacteriwm Clostridium tetani a gall effeithio ar unrhyw oedran. Mae'r organeb yn hollbresennol yn yr amgylchedd ac mae ganddi gyfnod deor o un diwrnod i sawl mis.
Mae polio (Poliomyelitis) yn haint a nodweddir gan ymddangosiad acíwt parlys llipa. Mae’n cael ei achosi gan Boliofeirws math 1, 2 neu 3, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan y llwybr ysgarthol-geneuol ac mae ganddi gyfnod deor o 7 i 14 diwrnod.
Rhoddir Revaxis pan fyddwch tua 14 oed fel rhan o'r amserlen genedlaethol. Mae hyn tua 10 mlynedd ar ôl y pigiad atgyfnerthu cyn-ysgol, a roddir yn rheolaidd yn 3 oed a 4 mis.
Mae Revaxis yn frechlyn chwistrelladwy anweithredol mewn chwistrelliad wedi'i lenwi ymlaen llaw.
Nid yw'n cynnwys unrhyw facteria na feirysau byw ac ni all achosi unrhyw un o'r afiechydon y mae'n gwarchod rhagddynt.
Gellir defnyddio Revaxis i reoli anafiadau sy’n dueddol o arwain at detanws ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion dros 10 oed nad ydynt wedi cael eu prif gwrs o frechlynnau sy’n cynnwys tetanws.
Dylid rhoi tetanws imiwnoglobwlin yn gydrefol yn unol â’r argymhellion swyddogol. Gellir defnyddio Infanrix hexa neu Vaxelis i reoli anafiadau sy’n dueddol o arwain at detanws ymhlith pobl.
Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau rheolaidd a'r rhai sydd ddim yn rheolaidd.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch am allweddeiriau e.e.: enwau afiechydon; difftheria; tetanws, neu bolio)
NES - Imiwneiddio heb ei drefnu ar gyfer plant a phobl ifanc (Mehefin 2019)
Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu Imiwneiddio.
Mae gwybodaeth ac adnoddau pellach am hyfforddiant imiwneiddio ar gael ar y dudalen Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau.
Difftheria – y llyfr gwyrdd, pennod 15
Tetanws – y llyfr gwyrdd, pennod 30
Polio – y llyfr gwyrdd, pennod 26
Tetanws: cyngor i weithwyr iechyd
Brechu unigolion sydd gyda statws imiwneiddio ansicr ney angyflawn - GOV.UK
Gellir dod o hyd i dempliedi PGD ar y dudalen Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs) a Tudalen Glanio Protocolau.