Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw’r cynnwys hwn ar gael yn Gymraeg.
Mae gwybodaeth fanwl am newidiadau i argymhellion brechu ar gyfer babanod a phlant, yn cynnwys cymhwysedd, ar gael isod ar y dudalen hon.
Am fanylion pellach am y newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant a gyflwynir yn 2025 a 2026, gweler Polisi Llywodraeth Cymru isod:
Llythyr at weithwyr proffesiynol yn egluro'r newidiadau arfaethedig i amserlenni brechlynnau ar gyfer plant a babanod dethol o 1 Gorffennaf 2025: Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant ac i’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B (WHC/2025/019) | LLYW.CYMRU (safle allanol)
Polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru (sharepoint.com) gweler 'Adran imiwneiddio plant' (mynediad i staff gofal iechyd y GIG)
Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae pecyn cymorth ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi'i baratoi, sy'n crynhoi'r holl adnoddau ac offer i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy'r newidiadau i'r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant. Gallwch weld y pecyn cymorth yn:
Mae set sleidiau hefyd wedi'i chreu i amlygu cyhoeddiadau allweddol, gallwch weld yr adnodd hwn yn:
Er mwyn eich cadw'n wybodus am y newidiadau hyn, gallwch ddod o hyd i'n sesiynau codi ymwybyddiaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dolenni isod. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys setiau sleidiau wedi'u recordio, sesiynau cinio a dysgu ar gyfer gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweminarau holi ac ateb.
I weld ac archebu lle ar y sesiynau, ewch i:
Ar y dudalen
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio.
Mae datganiadau a gyhoeddwyd gan y JCVI yn nodi'r prif newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant yn 2025 a 2026. I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, darllenwch ddatganiadau’r JCVI isod:
Mae tudalen we amserlenni imiwneiddio rheolaidd Cymru a'r dogfennau PDF cysylltiedig yn cwmpasu amserlen imiwneiddio gyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cymru:
Mae offeryn cymhwysedd brechu wedi'i ddatblygu i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i benderfynu a yw plant yn gymwys i gael eu brechu yn ystod y newidiadau. Gallwch ddod o hyd i hyn yma:
Mae'r offeryn cymhwysedd MMRV hwn yn berthnasol dim ond o 1 Ionawr 2026:
Darllenwch dogfen bolisi Cymru cyn defnyddio cyfrifiannell cymhwysedd brechu plant UKHSA.
Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant ac i’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B (WHC/2025/019) | LLYW.CYMRU (safle allanol) am ragor o wybodaeth
Mae cyfrifiannell cymhwysedd brechu plant UKHSA ar gael yn: Childhood immunisation eligibility calculator - Cyhoeddiadau Iechyd (safle allanol, Saesneg yn unig)
Canllawiau ar newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru:
Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy'r dudalen E-ddysgu.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddi ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau.
Mae’r sleidiau a’r recordiadau sy’n rhoi briffiau manwl i gefnogi Byrddau Iechyd gyda hyfforddiant lleol i’w gweld ar Hyfforddiant (sharepoint.com) (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).
Mae'r ffurflen Cofnodi Imiwneiddio Heb ei Drefnu hwn yn berthnasol dim ond o 1 Ionawr 2026:
Llyfr Gwyrdd - Imiwneiddio rhag clefydau heintus - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)
Mae gan y Llyfr Gwyrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau a gweithdrefnau brechu, ar gyfer clefydau heintus ataliadwy drwy frechu yn y DU.
Cyfeiriwch at y ddogfen polisi ganlynol ar gyfer Cymru cyn defnyddio'r dogfennau allanol canlynol:
Brechiad farisela (brech yr ieir) arferol i blant ifanc o 1 Ionawr 2026 (WHC/2025/046) | LLYW.CYMRU (safle allanol)
Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant ac i’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B (WHC/2025/019) [HTML] | LLYW.CYMRU (safle allanol)
Crynodeb ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymarferwyr imiwneiddio sy'n rhoi brechlynnau yw brechu unigolion â statws imiwneiddio ansicr neu anghyflawn (yr algorithm imiwneiddio anghyflawn): Brechu unigolion sydd â statws imiwneiddio ansicr neu anghyflawn (safle allanol, Saesneg yn unig)
Mae poster canllaw gweledol UKHSA i frechlynnau yn cynnwys pecynnu a chyflwyniad cynnyrch y brechlynnau a ddefnyddir yn y rhaglenni brechu rheolaidd Poster canllaw gweledol i frechlynnau (safle allanol, Saesneg yn unig)
Y brechlyn 6 mewn 1:
Brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB cyfun chwefalent: gwybodaeth i ymarferwyr gofal iechyd Brechlyn cyfun chwefalent: canllawiau rhaglen (safle allanol, Saesneg yn unig)
Hepatitis B:
Crynodeb o amserlen brechu hepatitis B, cyngor ac arweiniad i fenywod beichiog a mamau newydd nodyn atgoffa brechlyn hepatitis B (safle allanol, Saesneg yn unig)
Hepatitis B (HepB) – Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol
Canllawiau i ymarferwyr gofal iechyd ar y rhaglen brechlyn chwefalent, gan gynnwys ei defnyddio yn y rhaglen hepatitis B newyddenedigol detholus, o 1 Gorffennaf 2025: Brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB chwefalent a'r rhaglen hepatitis B newyddenedigol (HepB) dethol (safle allanol, Saesneg yn unig)
Brechlyn MenACWY:
Gellir dod o hyd i dempledi Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer brechlynnau ar dudalen Cyfarwyddydau Grŵp Cleifion: Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol)