Neidio i'r prif gynnwy

Mpox - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.

Ar y dudalen yma:

Cefndir 

Mae’r frech M (a elwid gynt yn frech y mwncïod) yn glefyd heintus prin a achosir gan y feirws brech M (MPXV). Mae MPXV yn feirws DNA sy'n gysylltiedig â'r feirysau sy'n achosi'r frech wen a brech y fuwch ond yn wahanol iddynt. Ers i'r frech wen gael ei dileu ym 1980 a’r rhaglen frechu rhag y frech wen ddod i ben, mae'r frech M bellach wedi dod yn brif achos brigiadau o achosion o'r frech wen mewn bodau dynol.   

Mae dau gytras feirysol gwahanol:  

Cytras feirysol  Disgrifiad  Is-gystrasau 
Cytras I 
  • Yn flaenorol yn cael ei alw’n gytras basn Canolbarth Affrica neu Congo. 

  • Ers mis Mawrth 2025, nid yw Cytras I y frech M bellach wedi'i ddosbarthu fel clefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol (HCID) yn y DU. 

Cytras Ia, Cytras Ib 
Cytras II 
  • Yn flaenorol yn cael ei alw’n gytras Gorllewin Affrica.  

  • Ers mis Ionawr 2023, nid yw Cytras II y frech M wedi'i ddosbarthu fel HCID yn y DU mwyach. 

Cytras IIa, Cytras IIb 

Ers mis Mai 2022, mae achosion o’r frech M wedi cael eu hadrodd mewn sawl gwlad, lle nad oedd y feirws wedi'i darganfod o'r blaen, gan gynnwys y DU. Mae'r rhan fwyaf o'r achosion hyn yn deillio o Gytras IIb. 

Yn hanesyddol, gwyddys bod Cytras I y frech M wedi cylchredeg mewn ychydig o wledydd Canolbarth Affrica. Fodd bynnag, yn 2024, adroddwyd am achosion o Gytras I y frech M mewn gwledydd y tu allan i'r rhanbarth hwn, gan gynnwys y DU.  

Mae’r frech M (unrhyw gytras) yn glefyd hysbysadwy. 

Trosglwyddo 

Mae trosglwyddiad rhwng pobl yn digwydd trwy gyswllt corfforol agos, gan gynnwys: 

  • Cyswllt uniongyrchol â’r frech, briwiau croen neu grachod: Gall y feirws mewn briwiau croen heintio eraill trwy doriadau yn y croen neu bilenni mwcosaidd. Er nad yw’r frech M wedi'i ddosbarthu fel haint a drosglwyddir yn rhywiol, gall ledaenu yn ystod rhyw, cusanu, cwtsio neu gyswllt croen-i-groen arall.  

  • Hylifau corfforol: Cyswllt â hylifau corfforol fel poer, llysnafedd trwyn (snot) neu fwcws, yn cynnwys yn ystod cyswllt rhywiol agos. 

  • Defnynnau anadlol: Mae'r feirws hefyd i'w gael yn y llwybr anadlol uchaf a gall ledaenu trwy ddefnynnau anadlol yn ystod cyswllt wyneb yn wyneb uniongyrchol a pharhaus. 

  • Deunydd halogedig: Cyffwrdd ag eitemau halogedig fel dillad neu ddillad gwely sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn heintiedig. 

Gall y frech M hefyd ledaenu trwy gysylltiad agos ag anifail heintiedig. Yn ogystal â hyn, gall y feirws gael ei drosglwyddo o'r fam i'r babi yn ystod beichiogrwydd neu roi genedigaeth. 

Fel arfer, mae gan y frech M gyfnod magu rhwng 5 a 21 diwrnod, ond fel arfer 6 i 13 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad ag ef. 

Brigiad o achosion Cytras II yn y DU ym mis Mai 2022 

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd y DU ddigwyddiad cenedlaethol oherwydd cynnydd mewn achosion o’r frech M, yn bennaf ymhlith dynion hoyw, deurywiol, a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). Yn dilyn hyn, cyflwynodd y DU strategaeth frechu cyn dod i gysylltiad â’r haint wedi'i thargedu at amddiffyn y rhai sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â’r feirws. Roedd hyn yn cynnwys GBMSM a nodwyd gan wasanaethau iechyd rhywiol a gweithwyr gofal iechyd sydd mewn perygl uchel o ddod i gysylltiad â’r haint.  

Oherwydd cyflenwad brechlynnau, y ffocws cychwynnol oedd rhoi'r dosau cyntaf i gynifer o GBMSM â phosibl oedd mewn perygl mwyaf o gael y frech M. Erbyn mis Medi 2022, ar ôl rhoi llawer o ddosau ac achosion o'r frech M yn gostwng a digon o gyflenwad o'r brechlyn, argymhellwyd ail ddos ​​ar gyfer unigolion risg uchel. Cynghorwyd yr ail ddos ​​ddau i dri mis ar ôl y dos cyntaf i sicrhau amddiffyniad hirach. 

Brigiad o achosion o Gytras I y frech M: 2024 i 2025 

Ar 14 Awst 2024, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol oherwydd cynnydd mewn achosion o Gytras I y frech M yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a gwledydd Affricanaidd eraill. Mae'r brigiad o achosion hwn yn dal i fynd rhagddo, ac mae tystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol parhaus mewn nifer o wledydd.  

Mae achosion o Gytras I y frech M sy'n gysylltiedig â theithio wedi cael eu hadrodd y tu allan i Ranbarth Affrica. Er nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd o drosglwyddiad cymunedol parhaus o Gytras 1 y frech M y tu allan i Affrica, mae rhywfaint o drosglwyddiad lleol (megis o fewn cartrefi) wedi'i adrodd yng Ngwlad Belg, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen a'r Deyrnas Unedig. 

Am yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: Mpox: affected countries - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Strategaeth frechu rhagataliol reolaidd o 1 Gorffennaf 2025 

Ym mis Tachwedd 2023, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) strategaeth frechu reolaidd wedi’i thargedu i amddiffyn y rhai sydd mewn mwyaf o berygl o haint y frech M. Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru raglen frechu reolaidd i atal brigiadau o achosion o'r frech M. Cynigir y brechlyn pan fo’r cyfle’n codi fel brechiad cyn dod i gysylltiad â’r haint trwy wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol i GBMSM sy'n cael eu hasesu fel rhai sydd mewn mwy o berygl o gael haint y frech M.  

Dylai GBMSM sy'n mynd i wasanaethau iechyd rhywiol gael eu hasesu gan glinigwr iechyd rhywiol a fydd yn cynghori brechu os ydynt: 

  • â hanes diweddar o sawl partner, 

  • yn cymryd rhan mewn rhyw grŵp, 

  • yn mynd i leoliadau 'rhyw ar y safle', neu 

  • wedi cael haint bacteriol a drosglwyddir yn rhywiol (STI) o fewn y flwyddyn ddiwethaf. 

Gellir cynnig y brechlyn hefyd i'r rhai sydd â lefelau risg tebyg. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, bydd hyn yn gofyn am asesiad risg clinigol llawn i benderfynu a ydynt yn gymwys ai peidio. 

Y brechiad

Y brechlyn sydd ar gael yw'r brechlyn Ankara wedi'i Addasu (MVA-BN).  

Mae'r brechlyn MVA-BN, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y frech wen, yn cynnig lefel dda o amddiffyniad yn erbyn y frech M. Yn ystod y brigiad o achosion o’r frech M yn 2022, amcangyfrifwyd bod effeithiolrwydd y brechlyn rhwng 74-83%. Mae'r brechlyn hefyd yn helpu i leihau difrifoldeb y clefyd. Mae’n effeithiol o ran atal derbyniadau i'r ysbyty 67% o achosion.  

Mae'r brechlyn MVA-BN wedi cael ei awdurdodi ar gyfer imiwneiddio gweithredol yn erbyn y frech M ymhlith oedolion gan y DU gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae dau fersiwn o'r brechlyn hwn: Imvanex, a wneir yn Ewrop, a Jynneos, y fersiwn a wneir yn yr Unol Daleithiau. Yr un brechlyn ydyn nhw (a gynhyrchir gan Bavarian Nordic) ond maen nhw'n dod mewn gwahanol becynnau. 

Gellir gweld crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC) Imvanex ar wefan yr MHRA: 

MHRA Products | Imvanex (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Gellir gweld taflen pecyn Jynneos ar wefan FDA yr Unol Daleithiau: 

JYNNEOS | FDA (safle allanol, Saesneg yn unig)  

Gellir rhoi'r brechlyn yn isgroenol neu’n fewngyhyrol (gweler  Immunisation procedures: Green Book chapter 4 (safle allanol, Saesneg yn unig)). Y safle a ffefrir yw ardal cyhyr deltoid y fraich uchaf. 

Y feirws a ddefnyddir yn y brechlyn yw feirws sy'n ddiffygiol o ran atgynhyrchu (a elwir hefyd yn feirws anghymwys o ran atgynhyrchu). Mae'r feirws a ddefnyddir yn y brechlyn hefyd wedi'i wanhau, felly ni all atgynhyrchu mewn celloedd mamaliaid. Dylid ei ystyried yn frechlyn wedi’i anactifadu 

Brechlyn triongl du yw'r brechlyn MVA-BN ac felly mae'n destun monitro ychwanegol. Bydd hyn yn caniatáu adnabod gwybodaeth ddiogelwch newydd yn gyflym. Gofynnir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol roi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir gan ddefnyddio Yellow Card reporting scheme (safle allanol, Saesneg yn unig)

Dos

Bydd angen dau ddos ​​ar y rhan fwyaf o bobl gymwys. Dylid rhoi'r ail ddos ​​o leiaf 28 diwrnod ar ôl y dos cyntaf.

Os ymyrrir ar gwrs MVA-BN neu os caiff ei ohirio, dylid ei ailddechrau gan ddefnyddio'r un brechlyn, ond nid oes angen ailadrodd y dos cyntaf. 

Dim ond un dos o'r brechlyn MVA-BN fydd ei angen ar bobl sydd wedi cael eu brechu rhag y frech wen gyda'r brechlyn brech wen byw o'r blaen. 

Cyfeiriwch at Green Book Chapter 29 Smallpox and mpox - GOV UK (safle allanol, Saesneg yn unig) a Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol) am ragor o wybodaeth. 

Brechu galwedigaethol 

Mae'r rhan fwyaf o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn perygl isel iawn o ddod i gysylltiad â’r frech M ac nid oes angen brechiad cyn dod i gysylltiad â’r frech M rheolaidd arnynt. Dylai staff sy'n gweithio mewn rolau arbenigol sy'n dod i gysylltiad â feirysau orthopox yn aml ac yn hirfaith gael eu hasesu gan iechyd galwedigaethol a dylid cynnig brechiad iddynt os bydd ei angen. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • Gweithwyr labordy sy'n trin neu'n meithrin feirysau'r frech (fel y frech M neu’r brechlyn sydd wedi'i addasu'n enetig), gan gynnwys y rhai mewn labordai arbenigol iawn. 

  • Staff sy'n gofalu am gleifion mewnol sydd â’r frech M mewn unedau clefyd heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol (HCID), sy’n cynnwys y rhai sy'n glanhau ardaloedd lle mae cleifion y frech M wedi cael gofal. 

  • Staff sy'n dihalogi’n amgylcheddol yn rheolaidd o amgylch achosion o’r frech M. 

  • Staff gofal iechyd a labordy'r DU sy’n ymateb i frigiad o achosion neu ddigwyddiad o’r frech M dramor. 

  • Gweithwyr cymorth dyngarol y DU sy’n mynd i fyw a gweithio mewn cysylltiad agos â'r boblogaeth leol mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan frigiad o achosion neu ddigwyddiad o’r frech M dramor.    

Cyngor i bobl sy'n teithio i wledydd sydd â brigiad o achosion o’r frech M 

Nid yw brechu'n cael ei argymell ar gyfer teithwyr ar hyn o bryd. Mae cyngor cyfredol ar osgoi’r frech M wrth deithio ar gael ar wefan Travel Health Pro: NaTHNaC - Mpox (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Brechu ar ôl dod i gysylltiad â'r feirwswrth ymateb i frigiad o achosion 

Amcanion imiwneiddio ar ôl dod i gysylltiad â’r haint yw atal haint a lleihau difrifoldeb y clefyd mewn unigolion sydd wedi dod i gysylltiad â’r frech M.  

Dylid ystyried brechu ar ôl dod i gysylltiad â’r rhai sydd â’r risgiau uchaf o ddod i gysylltiad â’r feirws (mae hyn wedi’i ddiffinio yn y Contact tracing guidance for mpox - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)

Mae tystiolaeth gynyddol bod brechu ar ôl dod i gysylltiad â’r haint yn isel o ran effeithiolrwydd wrth atal haint y frech M. Fodd bynnag, os caiff ei roi ar unwaith, gallai fod â'r potensial i atal haint a/neu leihau difrifoldeb y clefyd. Dylai unigolion gael asesiad risg gan dîm Diogelu Iechyd a dylid blaenoriaethu'r brechlyn ar gyfer y rhai sydd fwyaf tebygol o elwa ohono. Er enghraifft, unigolion sydd wedi dod i gysylltiad â’r frech M yn ddiweddar iawn neu'r rhai sydd mewn mwy o berygl o glefyd difrifol yn dilyn gael eu heintio. 

Yn ddelfrydol, dylid cynnig brechu ar ôl dod i gysylltiad â’r haint i gysylltiadau cymunedol neu alwedigaethol risg uchel ymhen 4 diwrnod o’r cysylltiad. Fodd bynnag, gellir ei gynnig ymhen 14 diwrnod i'r rhai sydd mewn perygl parhaus, neu i'r rhai sydd mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o ganlyniad i’r frech M. Er enghraifft: 

  • plant (o dan bum mlwydd oed),  
  • menywod beichiog, ac  
  • unigolion ag imiwnedd gwan difrifol. 

Gall unrhyw ddigwyddiad dod i gysylltiad â’r haint roi cyfle i gynnig dos cyntaf neu ail ddos o'r brechlyn i unigolion nad ydynt wedi cael eu brechu eto. Mae hyn yn berthnasol i'r rhai sy'n gymwys i gael brechiad cyn dod i gysylltiad â’r haint, fel GBMSM sydd mewn perygl o gael y frech M a rhai gweithwyr gofal iechyd. 

Cyfeiriwch at Smallpox and mpox: Green Book, Chapter 29 (safle allanol, Saesneg yn unig) a Contact tracing guidance for mpox - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth. 

Cyd-weinyddu 

Brechlyn nad yw'n fyw yw'r brechlyn MVA-BN, felly gellir ei roi gyda brechlynnau byw ac i bobl sy'n cymryd proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP). Gellir ei roi ar yr un pryd â'r brechlynnau MenB, HPV, hepatitis A a hepatitis B hefyd. 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod.  

Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)  (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI; chwiliwch am e.e. MenB, gonorrhoea)  

Public Health Alerts / Contacts: Policy, letters and Welsh Government (sharepoint.com) 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru: Mpox (Monkeypox) vaccination programme | GOV.WALES (safle allanol) 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi trwy'r E-ddysgu dudalen.   

Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyfforddiant imiwneiddio ac adnoddau ar y Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio dudalen.  

Adnoddau Clinigol

Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau  

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y  Gwasanaeth Cyngor Meddyginiaethau Cymru (safle allanol)  

 

Data a Goruchwyliaeth