Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio

 

Cynnwys:

 

Safonau hyfforddi

Hyfforddiant imiwneiddio - cefnogi gweithlu cymwys

Mae lefel uchel o wybodaeth ac agwedd gadarnhaol at imiwneiddio ymhlith ymarferwyr gofal iechyd yn cael eu cydnabod yn eang fel penderfynyddion pwysig wrth gyflawni a chynnal nifer uchel o bobl sy'n derbyn brechlyn. Mae'n hanfodol felly bod imiwneiddwyr yn hyderus, yn wybodus ac yn gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf. Rhaid rhoi a derbyn hyfforddiant sylfaenol da a diweddariadau rheolaidd i gyflawni hyn, sef argymhelliad a wnaed hefyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) a gweithgor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) ar betruster brechu.

Nod y Safonau Cenedlaethol yw sicrhau cysondeb yn yr hyfforddiant a ddarperir ar draws y wlad a chynorthwyo'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu hyfforddiant.

​​​​​​

Dogfennau cymhwysedd clinigol

Offeryn cymhwysedd imiwneiddio Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN)

Mae'r offeryn asesu cymhwysedd gwybodaeth a sgiliau imiwneiddio yn fframwaith cymhwysedd i gefnogi'r gwaith o hyfforddi ac asesu gweithwyr gofal iechyd cofrestredig a'r rhai nad ydynt wedi cofrestru sydd â rôl mewn imiwneiddio:

 

Argymhellion hyfforddi sy'n benodol i raglen frechu COVID-19

 

Argymhellion hyfforddi sy'n benodol i raglen frechu ffliw

Argymhellion hyfforddiant ffliw - 2024/2025

 

Datganiad hyfforddiant Feirws Syncytial Anadlol (RSV) 

Datganiad hyfforddiant rhaglen frechu’r RSV 

 

 

 

Adnoddau a chanllawiau hyfforddi gweithwyr cymorth gofal iechyd

 

 

eDdysgu

eDdysgu Imiwneiddio

Darperir dysgu ar-lein gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â'r Rhaglen Systemau Gwybodaeth am y Gweithlu (WfIS), gwasanaethau a rennir. Mae'r dudalen hon yn cynnig cymorth wrth ddechrau eDdysgu ac mae'n cynnig modiwlau eDdysgu am imiwneiddio a ddatblygwyd gan VPDP Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â modiwlau eDdysgu cenedlaethol a luniwyd gan eDdysgu ar gyfer gofal iechyd.

 

 

Setiau sleidiau hyfforddi penodol i frechlynnau

Cofnod Mamolaeth Cymru Gyfan – Brechiadau yn ystod Beichiogrwydd

 

Gweminarau

Gweminar Holi ac Ateb - RSV- cyfres sleidiau [8 Awst 2024]
Gweminar Holi ac Ateb - RSV- Recordiad [8 Awst 2024] Hyfforddiant (sharepoint.com)

Gweminar – Holi ac Ateb – Materion cyfredol – cyfres sleidiau [17 Mehefin 2024]
Gweminar – Holi ac Ateb – Materion cyfredol – recordiad [17 Mehefin 2024] Hyfforddiant (sharepoint.com)

Gweminar Holi ac Ateb - MMR – set sleidiau [28 Chwefror 2024]
Gweminar Holi ac Ateb - MMR - recordiad [28 Chwefror 2024] Hyfforddiant (sharepoint.com)

 

Adnoddau fideo

Mae gan Gymdeithas Imiwnoleg Prydain (BSI) wybodaeth ac adnoddau defnyddiol, sydd ar gael yn: Cysylltu ar y Coronafeirws | Cymdeithas Imiwnoleg Prydain

Fideo hyfforddiant i roi brechlynnau Mae'r fideo hyfforddi hwn wedi'i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi ac ategu hyfforddiant imiwneiddio lleol. Dylid defnyddio'r adnodd hyfforddi hwn ochr yn ochr â'r safonau gofynnol cenedlaethol a’r cwricwlwm craidd ar gyfer hyfforddiant imiwneiddio.

Fideo yn dangos pigiad IM i oedolyn Mae'r fideo hwn yn rhan o'r fideo hyfforddiant i roi brechlynnau uchod er mwyn tynnu sylw at y dechneg frechu gywir wrth roi pigiad IM i oedolyn. Sylwch fod y fideo hwn wedi'i ffilmio cyn pandemig COVID-19. Mae’n bwysig bod imiwneiddwyr yn dilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau presennol.

Fideo rhoi brechlyn ffliw FLUENZ TETRA mewndrwynol - Addysg GIG yr Alban (NES); Iechyd Cyhoeddus yr Alban (PHS)

Mae’r fideo Cael Imiwneiddio am frechu mewn ysgol. Mae hefyd ar gael yn Saesneg yn Get Immunised. 

 

Cynhadledd Imiwneiddio Cymru

Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2025 - Abertawe 1af Mai 2025 - Daliwch y dyddiad.

Mae rhagor o wybodaeth am Gynhadledd Imiwneiddio Cymru ar gael yma.

Darllenwch am y Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2024

Darllenwch am y Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2023

 

Hyfforddiant ar y dechneg Cyfweld Ysgogiadol – cynnal sgyrsiau cadarnhaol i wella’r nifer sy’n derbyn brechlyn.  

Mae'r Uned Gwyddor Ymddygiad mewn cydweithrediad â Rhaglen Afiechydon Ataliadwy trwy Frechu (VPDP), yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi i gefnogi datblygu sgiliau yn y dechneg cyfweld ysgogiadol.  

Cynhaliwyd y sesiwn blasu cychwynnol ar 18 Mawrth 2024. Gellir gweld y sleidiau a gwrando ar recordiad o’r sesiwn hon yma: Hyfforddiant (sharepoint.com)

Mae sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb bellach yn cael eu cynllunio a bydd gwybodaeth ar gael yma yn fuan.