Neidio i'r prif gynnwy

Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB)

Nod y Rhaglen: 

Grymuso ysgolion i greu a gwreiddio diwylliant cadarnhaol tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol.

Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gefnogi’r gwaith hwn?

  1. Gofynion yr Ysgol: Grymuso pob un o’r 1473 o ysgolion yng Nghymru i greu diwylliannau sy’n helpu plant a phobl ifanc i ymdopi â’r llon a’r lleddf mewn bywyd bob dydd a sylwi ar y rhai y gallai fod angen cymorth pellach arnynt.
  2. Timau Mewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS): Cefnogi’r 7 tîm yng Nghymru i gydweithio ag ysgolion i helpu i wreiddio diwylliant o les emosiynol.
  3. Pecyn Cymorth Beth Sy'n Gweithio: Helpu ysgolion i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth drwy ganfod a yw ymyriadau iechyd meddwl mewn ysgolion yn gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc.

Beth yw'r amserlen ar gyfer y rhaglen waith hon?

Dechreuodd WSAEMWB ym mis Ebrill 2021. Bydd cam gweithredu'r rhaglen yn dod i ben ym mis Mawrth 2025; fodd bynnag, bydd disgwyl i bob ysgol barhau â'i dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol fel rhan o raglen waith Ysgolion Hybu Iechyd (Ysgolion Iach gynt).

Sut ydyn ni'n mesur y gwahaniaeth y mae WSAEMWB yn ei wneud?

Mae’n cymryd amser i fesur newid mewn diwylliant felly mae chwe gwerthusiad gwahanol ar y gweill:

  1. Monitro (Saesneg yn unig) faint o ysgolion yng Nghymru sy'n gwreiddio arferion emosiynol a lles.
  2. Arolygon effaith: Arolwg 3 blynedd i ganfod a yw arferion bob dydd mewn ysgolion yn newid, a yw disgyblion yn profi’r newidiadau hyn ac a yw’r systemau ehangach yn newid. Hefyd, a yw'r pethau sy'n helpu neu'n atal y newidiadau hyn yn cael eu cynnal mewn ysgolion. Hefyd, dadansoddiad o’r wybodaeth o holiadur Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) sy'n gofyn i blant a phobl ifanc am eu lles yn yr ysgol ac yn edrych ar amgylchedd yr ysgol (SEQ).
  3. Gwerthuso’r Broses: i ddarganfod sut mae ysgolion wedi bod yn gwreiddio eu prosesau emosiynol a lles.
  4. Offer Effaith: Cyd-greu offer i fesur y gwahaniaeth y mae timau Mewngymorth CAMHS yn ei wneud mewn ysgolion.

Stori Ysgol

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â hi-programme.support@wales.nhs.uk
 

Ffurflen

Adnoddau