Neidio i'r prif gynnwy

Hyrwyddo Lles Unigol a Chymunedol

Mae lles meddyliol yn elfen sylfaenol o'n hiechyd cyffredinol. Mae lles meddyliol yn dylanwadu ar sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu a gall lles cadarnhaol ysgogi ymddygiadau iechyd cadarnhaol a chanlyniadau iechyd.

Gellir ystyried bod cyflwr o les cadarnhaol yn “teimlo'n dda ac yn gweithredu'n dda”, fel bod unigolyn yn gallu byw bywyd sy'n ystyrlon iddo ac yn gallu ymgysylltu â bywyd cymunedol yn y ffordd y mae’n dymuno. Mae hyn yn gofyn i gymunedau fod yn gynhwysol a chroesawgar, gan alluogi unigolion i gael mynediad at weithgareddau, cefnogaeth a chymryd rhan gyda phrofiadau cyfunol

Mae'r Tîm Lles Meddwl Unigol a Chymunedol yn yr Is-adran Gwella Iechyd yn darparu cyngor, arweiniad ac offer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi unigolion a sefydliadau partner i amddiffyn a hyrwyddo lles meddyliol. Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am ein rhaglenni gwaith allweddol. 

Fframwaith Cysyniadol ar gyfer Lles Meddwl

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu fframwaith cysyniadol sy'n darlunio'r berthynas rhwng lles unigolion a chymunedol ac elfennau allweddol sy'n dylanwadu ar les ar bob lefel.

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru waith gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd i ddatblygu'r fframwaith.  Mae'r fframwaith yn defnyddio llenyddiaeth seicolegol a chymdeithasegol i ddisgrifio cysyniadau a pham eu bod yn bwysig ar gyfer lles meddyliol. Mae'r model yn darlunio dealltwriaeth gyfredol o gysyniadau sy'n effeithio ar les ac sy'n debygol o esblygu gydag amser wrth i'r sylfaen dystiolaeth greiddiol esblygu ac wrth i adborth pellach ar y model gael ei dderbyn.

 

Grymuso Cymunedol

Mae grymuso cymunedol sy'n cychwyn mwy o reolaeth unigol a chyfunol yn weithred hybu iechyd ynddo'i hun. Mae grymuso hefyd yn gwella perthnasoedd cymdeithasol ar lefel unigolion a phoblogaeth, a phan fydd unigolion wedi'u grymuso yn cymryd rhan mewn gwaith gwella gwasanaethau, mae datblygu a darparu gwasanaethau yn well ac yn fwy tebygol o ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth.  

Nod grymuso yw galluogi pobl i gymryd rheolaeth o'r camau gweithredu a'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau; mae ymdeimlad o reolaeth yn agwedd bwysig ar les meddyliol cadarnhaol.  

Nid yw grymuso yn rhywbeth y mae gweithwyr proffesiynol neu sefydliadau yn ‘ei wneud i' gymuned, ond ein gwaith ni yw creu'r amodau lle gall cymunedau gymryd grym.  I'r perwyl hwn, gweithiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gydag eraill gan gynnwys sefydliadau sy'n wynebu'r gymuned ac aelodau o'r cyhoedd trwy gyfres o weithdai i ddatblygu adnodd gyda'r nod o arwain ymarfer ymgysylltu â'r gymuned yng Nghymru. Nod 'Egwyddorion Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer Grymuso' yw annog ymarfer myfyriol wrth weithio gyda chymunedau ac ar eu rhan.

Astudiaethau achos