Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid

Mae'r sefyllfa ansicr ar hyn o bryd yn cael effaith ar swyddi ac incwm ac mae llawer o bobl yn poeni am eu dyfodol ariannol. Mae Coronafeirws yn achosi newidiadau annisgwyl i gynlluniau a threuliau i bron pawb.  Gall poeni am arian effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch llesiant, a gall iechyd meddwl gwael ei gwneud yn anoddach rheoli arian.

Mae llawer o sefydliadau a all ddarparu cyngor a chefnogaeth i'ch helpu chi i ddelio ag effeithiau ariannol Coronafeirws. Gall cael cymorth a chyngor yn gynnar eich helpu i osgoi mynd i anhawster ariannol.

Mae ystod o gyngor a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gael ynghylch swyddi, sgiliau a chymorth ariannol yng Nghymru.

Gall Cyngor ar Bopeth Cymru eich helpu gyda materion cyfreithiol ac ariannol, ac mae hefyd yn darparu cefnogaeth mewn ystod eang o feysydd eraill trwy gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol, rhad ac am ddim. Gallwch ffonio'r llinell ffôn Advicelink ar 03444 77 20 20. Dyma rai o'r tudalennau gwe a allai fod yn fwyaf defnyddiol i chi ar hyn o bryd:

Datblygwyd HelpwrArian  i eich helpu i gael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniadau ariannol cywir, er mwyn i chi wneud y gorau o'ch arian. Mae'r HelpwrArian yn darparu gwybodaeth ac arweiniad dwyieithog ar y camau y gallwch eu cymryd nawr i osgoi pryderon ariannol yn nes ymlaen.

StepChange Debt Charity yw prif elusen cyngor dyled y DU, sy'n helpu pobl i reoli eu cyllid a'u bywydau. Maent yn cynnig cefnogaeth ddiduedd a chyfrinachol am ddim, ac mae pob cleient yn derbyn cyngor arbenigol, personol, i'w helpu i fynd i’r afael â'i ddyledion. Mae StepChange yn cynnig cyngor ar-lein neu gallwch gysylltu â nhw ar 0113 138 1111 (Llun-Gwener 8am-8pm, dydd Sadwrn 8am-4pm).

Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Nyth, yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni gartrefi incwm isel a'r rheini sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim, ac os ydych yn gymwys, becyn o welliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio. Gall hyn leihau eich biliau ynni a gall fod o fudd i'ch iechyd a'ch llesiant.

Bydd ein gwefan yn dangos i chi sut y gallwn helpu a'r amodau cymhwysedd ar gyfer gwelliannau ynni-effeithlon i'r cartref. Gallwch hefyd ofyn i un o'n cynghorwyr eich ffonio'n ôl. 

Os ydych yn ei chael hi'n anodd cadw eich cartref yn gynnes neu ymdopi â'ch biliau ynni, ffoniwch ni ar Radffon 0808 808 2244 neu ymwelwch y wefan https://nyth.llyw.cymru/cy/.