Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi (fel rhywun sy'n byw gyda gweithiwr allweddol) wedi cael canlyniad prawf POSITIF ar gyfer haint COVID-19:

  • Rhaid i chi hunanynysu am o leiaf 7 diwrnod

Mae'n rhaid i chi hunanynysu gartref yn unol â chanllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl

Er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint i aelodau eraill o'r cartref dylech gymryd camau fel y nodir yn y canllawiau.

Darllenwch y canllawiau 'Rhoi’r gorau i ynysu' a 'Diagram Cyfarwyddyd Aros Gartref ' am fwy o wybodaeth ynghylch pryd y mae'n ddiogel i chi roi’r gorau i ynysu:

https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl

https://llyw.cymru/hunanynysu-diagram-esboniadol

Rhaid i aelodau eich cartref (gan gynnwys y gweithiwr allweddol) hunanynysu am 14 diwrnod o'r dyddiad y gwnaeth eich symptomau gychwyn; os byddan nhw wedyn yn datblygu'r symptomau eu hunain, mae'n rhaid iddynt hwythau hunanynysu am o leiaf 7 diwrnod ers i’w symptomau gychwyn a gallant ofyn am brawf. 

Os nad yw'r sawl sy'n sâl yn y cartref yn dangos arwyddion ei fod yn gwella ar ôl 7 diwrnod ac nad yw eisoes wedi gofyn am gyngor meddygol, ewch i wefan Galw Iechyd Cymru neu ffonio GIG 111.  Os yw'n argyfwng meddygol, ffoniwch 999.