Diolch am ymweld â'r dudalen we hon am fwy o wybodaeth yn dilyn eich prawf diweddar ar gyfer y coronafeirws (COVID-19).
Mae'r safle hwn ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cael prawf COVID-19. Byddwch wedi cael eich canlyniad drwy neges destun i'r rhif ffôn symudol y gwnaethoch ei nodi pan gawsoch eich prawf. Os byddwch chi neu unrhyw aelod o'ch cartref yn mynd yn salach ar unrhyw adeg, dylech fynd i wefan Galw Iechyd Cymru neu ffonio GIG 111. Os yw'n argyfwng meddygol, ffoniwch 999.
Os ydych chi wedi cael eich nodi fel cyswllt ag achos o COVID-19, parhewch i ddilyn y cyngor here.