1. Pobl a nodir fel rhai sydd wedi dod i gysylltiad â COVID-19 Os oes rhywun wedi siarad â chi neu os ydych wedi cael eich nodi fel cyswllt achos o COVID-19 a'ch bod o fewn eich cyfnod hunanynysu 14 diwrnod, dylech barhau i ddilyn y cyngor ar https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-coronafeirws Er gwaethaf prawf negyddol (gyda symptomau neu heb), mae'n rhaid i chi barhau i hunanynysu nes bod y cyfnod heintus 14 diwrnod ar ben. Os byddwch yn teimlo'n sâl eto ar ôl y cyfnod heintus 14 diwrnod, dylech hunanynysu eto, ac efallai y bydd angen prawf arall arnoch. 2. Pobl nad ydynt yn gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad â COVID-19 Nid yw eich prawf negatif yn diystyru nad COVID-19 yw’r haint yn bendant, ond mae'n golygu ei bod yn fwy tebygol bod gennych symptomau o ganlyniad i haint gwahanol, fel y ffliw neu heintiau eraill sy'n achosi peswch ac annwyd. Mae'n bwysig nad ydych yn trosglwyddo'r heintiau hyn ychwaith, a dylech barhau i hunanynysu nes eich bod yn well. Os byddwch yn teimlo'n sâl eto, dylech hunanynysu, ac efallai y bydd angen prawf arall arnoch. Os ydych wedi cael canlyniad prawf NEGATIF ond nad ydych erioed wedi cael unrhyw symptomau, nid oes angen i chi hunanynysu. Os byddwch yn teimlo'n sâl ar ôl hyn, dylech hunanynysu, ac efallai y bydd angen prawf arall arnoch. Gall y gweithiwr allweddol yn eich cartref ddychwelyd i'r gwaith, ond os bydd ef (y gweithiwr allweddol) yn datblygu symptomau ar ôl hyn, mae'n rhaid iddo hunanynysu ar unwaith, a chysylltu â'i ganolfan brofi ddynodedig i gael ei asesu ar gyfer prawf ei hun. Rhaid i’r sefydliad sy'n cyflogi'r gweithiwr allweddol, a drefnodd eich prawf chi, gael gwybod eich bod wedi cael canlyniad eich prawf. Dylai'r gweithiwr allweddol gysylltu â'i gyflogwr ynghylch absenoldeb salwch a dychwelyd i'r gwaith yn seiliedig ar ganlyniad eich prawf chi a statws ei iechyd ei hun. Gall hyn gynnwys asesiad iechyd galwedigaethol. |