Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi'n weithiwr allweddol ac wedi cael canlyniad prawf POSITIF ar gyfer haint COVID-19:

  • Rhaid i chi hunanynysu am o leiaf 7 diwrnod

Mae'n rhaid i chi a’ch aelwyd hunanynysu gartref yn unol â chanllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl

Er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint i aelodau eraill o'r cartref dylech gymryd camau fel y nodir yn y canllawiau

  • Dychwelyd i'r gwaith

Gallwch chi (fel gweithiwr allweddol) ddychwelyd i'r gwaith:

  • Ar ddiwrnod 8 ar ôl i’r symptomau gychwyn cyn belled nad yw eich tymheredd wedi bod yn uchel (heb gymryd meddyginiaethau fel paracetamol, ac ati) am y 48 awr ddiwethaf.
  • Os nad yw eich tymheredd wedi bod yn uchel am 48 awr erbyn diwrnod 8, a'ch unig symptom yw peswch parhaus, gallwch ddychwelyd i'r gwaith beth bynnag (mae tystiolaeth bod peswch ôl-feirws yn parhau am sawl wythnos mewn rhai achosion).

Rhaid i aelodau eich cartref hunanynysu am 14 diwrnod o'r dyddiad y gwnaeth eich symptomau gychwyn; os byddant hwythau wedyn yn datblygu'r symptomau eu hunain, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd hunanynysu am o leiaf 7 diwrnod ers i’w symptomau gychwyn a gallant ofyn am brawf.

Mae rhagor o fanylion ar gael yng nghanllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru: 

https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl

Os nad yw'r sawl sy'n sâl yn y cartref yn dangos arwyddion ei fod yn gwella ar ôl 7 diwrnod ac nad yw eisoes wedi gofyn am gyngor meddygol, ewch i wefan Galw Iechyd Cymru neu ffonio GIG 111.  Os yw'n argyfwng meddygol, ffoniwch 999.