Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles mewn Ysgolion

Mae addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio’n sylweddol. Mae hyn yn cynnwys Cwricwlwm i Gymru a arweinir gan bwrpas ac sy’n canolbwyntio ar brosesau, sydd ar hyn o bryd yn ei ail flwyddyn o weithredu. Mae hyn yn cynnwys Iechyd a Lles fel Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae Iechyd a Lles yn faes eang a deinamig o’r cwricwlwm. Fodd bynnag, nid yw’r arbenigedd i weithredu’r maes (o’r dylunio i’r cyflwyno) o reidrwydd eisoes wedi’i wreiddio mewn ysgolion. Mewn ymateb i hyn, mae tîm Lleoliadau Addysgol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu Prosiect Cwricwlwm Iechyd a Lles â therfyn amser a fydd yn dod â’r sectorau Iechyd ac Addysg ynghyd. Y bwriad yw cyd-greu pecynnau cymorth cwricwlwm ac adnoddau i ysgolion ddatblygu a chyflwyno themâu iechyd a lles allweddol fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles newydd.

Nod y prosiect cwricwlwm yw:

  • Cefnogi ysgolion i ddatblygu a chyflwyno eu Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn effeithiol
  • Rhoi gwybodaeth iechyd a lles ar sail tystiolaeth i ysgolion
  • Rhoi mynediad i ysgolion at adnoddau iechyd a lles y gellir eu haddasu o ansawdd uchel i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm yn unol ag ethos y Cwricwlwm i Gymru.

Pecynnau Cymorth ac Adnoddau Iechyd a Lles

Mae tîm y prosiect, ochr yn ochr â phartneriaid ym meysydd iechyd ac addysg, wedi nodi pedair thema i ffocysu arnynt i ddechrau ac maent yn llunio pecynnau cymorth ac adnoddau ar y cyd i gefnogi dysgu.

Mae'r pecynnau cymorth cwricwlwm wedi'u datblygu gan ddilyn egwyddorion cynllunio'r cwricwlwm ac yn nodi'r hyn sy'n bwysig i'r dysgwr ac ar ei gyfer. Mae negeseuon allweddol yn nodi'r hyn yr ydym am i ddysgwyr ei ddeall (a pham), ei ddangos a'i werthfawrogi. Mae’r pecynnau cymorth hefyd yn nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu trosglwyddadwy ar draws themâu ac o fewn pynciau ehangach a’r cysyniadau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn y meysydd Iechyd a Lles yn ogystal â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.

Wrth i'r pecynnau cymorth cwricwlwm ddatblygu, cânt eu cyhoeddi ar y wefan hon. Mae pob pecyn cymorth yn dilyn y fformat canlynol:  

  1. Arweiniad i athrawon
  2. Banciau Gwybodaeth
  3. Gweithgareddau dosbarth

Mae'r holl adnoddau wedi'u cynllunio i'w defnyddio'n hyblyg a dylid eu haddasu i ddiwallu anghenion dysgwyr a nodwyd o fewn cyd-destun yr ysgol. Dylai ymarferwyr ystyried a yw cynnwys y pecyn cymorth a’r adnoddau yn briodol o ran datblygiad y dysgwr.

Thema Un

Sylweddau a Chaethiwed - Canolbwyntio ar Fepio

Cydnabyddiaethau: Hoffem ddiolch i'r ysgolion canlynol am eu cymorth a'u cefnogaeth wrth ddatblygu'r pecyn cymorth hwn.

Whitestone Primary School

Pontypridd High School

Eastern High School

Raglan CiW VC Primary School

Pontypridd High School

Ysgol Bro Gwaun

Pembrokeshire Learning Centre and the Behaviour Service

Ysgol Trimsaran