Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddhau adroddiad cyntaf Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real yng Nghymru ar gyfer 2022-23

Cyhoeddig: 11 Ionawr 2024

Mae'r adroddiad yn cynnwys deunydd sensitif sy'n cyfeirio at fanylion am farwolaethau lle yr amheuir hunanladdiad.

Os ydych yn cael trafferth ymdopi, gellir dod o hyd i ffynonellau cymorth yng Nghymru ar y dudalen hon.  Gellir cysylltu â'r Samariaid 24 awr y dydd, am ddim, ar 116 123, drwy neges e-bost ar jo@samaritans.org neu ewch i www.samaritans.org i ddod o hyd i'ch cangen agosaf.  Gellir dod o hyd i gymorth arall ar dudalen gymorth y GIG ar gyfer meddyliau am hunanladdiad. Mae cymorth ar gael bob awr o'r dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn, gan roi lle diogel i chi, pwy bynnag ydych chi a sut bynnag rydych yn teimlo.

Os ydych yn newyddiadurwr sy'n ymdrin â mater sy'n gysylltiedig â hunanladdiad, a fyddech cystal ag ystyried dilyn canllawiau cyfryngau'r Samariaid ar adrodd am hunanladdiad oherwydd canlyniadau niweidiol posibl adrodd anghyfrifol. Yn arbennig, mae'r canllawiau'n rhoi cyngor ar derminoleg ac yn cynnwys dolenni i ffynonellau cymorth i unrhyw y mae'r themâu yn yr adroddiad hwn yn effeithio arnynt.

Mae adroddiad cyntaf Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) yng Nghymru wedi'i gyhoeddi heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r RTSSS wedi'i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Gyswllt yr Heddlu yn Llywodraeth Cymru, pedwar awdurdod Heddlu Cymru, y rhaglen genedlaethol atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Ngweithrediaeth GIG Cymru a Phrifysgol Abertawe, gan adeiladu ar systemau sydd eisoes wedi'u sefydlu gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar draws y DU.   Ei nod yw casglu a dadansoddi data mewn modd amserol, er mwyn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid ar batrymau cenedlaethol a rhanbarthol i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.

Mae’r data yn yr adroddiad yn seiliedig ar adroddiadau i Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch marwolaethau lle yr amheuir hunanladdiad, cyn i gwest Crwner ddigwydd.  Rhagwelir y bydd nifer yr achosion o hunanladdiad a gadarnheir fel y'u pennir gan Grwner yn is na'r hunanladdiadau a amheuir, oherwydd gall ymchwiliad y Crwner ddod o hyd i achos gwahanol.

Mae'r adroddiad yn cwmpasu'r cyfnod 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023, ac mae'n dangos y bu 356 o farwolaethau o hunanladdiad tybiedig ymhlith trigolion Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw, gan roi cyfradd o 12.6 fesul 100,000 o bobl.  Roedd 78 y cant yn ddynion, ac roedd y gyfradd oed-benodol ar ei huchaf mewn dynion 35-44 oed, ac yna dynion 25-34 oed.

Canolbarth a Gorllewin Cymru oedd â'r gyfradd ranbarthol uchaf o hunanladdiad tybiedig ar 15.7 fesul 100,000 o'r boblogaeth, a oedd yn ystadegol arwyddocaol uwch na'r gyfradd Cymru gyfan ar 12.6 fesul 100,000.  Roedd y cyfraddau hefyd yn ystadegol arwyddocaol uwch yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf (13.9 fesul 100,000) nag yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf (9.5 fesul 100,000).

Meddai Dr Rosalind Reilly, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, “mae pob marwolaeth oherwydd hunanladdiad tybiedig yn drasiedi unigol sy'n cael effeithiau pellgyrhaeddol i deuluoedd a chymunedau ehangach. 

“Nod yr RTSSS yw darparu data amserol er mwyn i fesurau atal hunanladdiad gael eu sefydlu'n gyflym lle bo angen. Mae'r adroddiad cyntaf hwn yn darparu data defnyddiol i ni a fydd yn cynorthwyo rhanddeiliaid ledled Cymru i weithio'n effeithiol i dargedu camau gweithredu lle y byddant yn cael yr effaith fwyaf posibl.”

Meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Mae colli rhywun i hunanladdiad yn effeithio'n ofnadwy ar deulu, ffrindiau a chymunedau cyfan. Mae un bywyd sy'n cael ei golli bob amser yn un yn ormod. Mae atal hunanladdiad yn gymhleth ac ni all un sefydliad fynd i'r afael â'r materion ar wahân ac mae cryfhau'r data yn elfen allweddol o'n helpu i ddeall y ffactorau risg.

“Bydd Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real yng Nghymru yn ein helpu i dargedu dulliau ataliol yn well ledled Cymru a bwydo i mewn i'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant newydd a strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio.”