Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi tegwch iechyd wrth wraidd adfer ar ôl Coronafeirws ar gyfer adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru

Cyhoeddwyd: 11 Ebrill 2022

Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi paratoi cyfres o animeiddiadau i dynnu sylw at ei gwaith hanfodol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Yn rhan o fenter fyd-eang, a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd y Byd (WHESRi) yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran tegwch iechyd er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach, ac mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws ac adfer yn effeithiol ohono. 

Mae'r animeiddiadau'n dangos prif ganfyddiadau'r adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd gan y tîm, ac yn canolbwyntio ar effeithiau ehangach, llai gweladwy'r pandemig ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys: 

  • Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol 
  • Diweithdra, addysg a'r gagendor digidol  
  • Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu 

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi'i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, mae pobl ifanc yn nodi eu bod yn poeni am golli eu swydd neu fethu dod o hyd i swydd; ac mae'r gagendor addysgol wedi parhau a chynyddu, yn enwedig i'r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. 

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae pandemig y Coronafeirws yn arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd, llesiant ac economaidd-gymdeithasol. Mae'n cael ei deimlo'n anghyfartal ar draws ein cymdeithas gan fygwth y rhai mwyaf anghenus.

“Fodd bynnag, yng nghanol yr argyfwng, mae cyfle newydd wedi codi. Mae iechyd cyhoeddus wedi dod yn ffocws byd-eang, gan gryfhau'r achos dros fuddsoddi yn llesiant pobl - atal clefydau'n gynnar, diogelu a hybu iechyd, gwella cydnerthedd a thegwch, cefnogi'r mwyaf agored i niwed a grymuso ein cymunedau.”

“Gan weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Cymru yw'r wlad gyntaf i fod yn ddylanwadwr byd-eang ac yn safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd.

“Wedi'i gyflwyno drwy ein Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, mae'r fenter Adroddiad ar Statws Tegwch Iechyd Cymru yn rhoi llwyfan ar gyfer cyfosod a rhannu tystiolaeth a gwybodaeth, datblygu offer ymarferol a helpu i gau'r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwella ein dealltwriaeth ar y cyd o effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pandemig y Coronafeirws ac yn cefnogi ymateb cynaliadwy a theg ac adfer yng Nghymru.”

Mae'r animeiddiad cyntaf yn rhoi trosolwg o waith WHESRi a sut y gallai datblygu a chymhwyso dulliau ac offer newydd i ysgogi camau gweithredu a llywio atebion gau'r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae’r ail yn rhoi darlun o'r niwed amrywiol, yn ogystal â chyfleoedd sy'n deillio o bandemig y Coronafeirws a mesurau cyfyngol cysylltiedig, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau anghyfartal ar draws gwahanol sectorau, meysydd bywyd a grwpiau poblogaeth; a sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain.

I gael rhagor o wybodaeth gweler y dolenni isod:

Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisïau i wella iechyd a llesiant, ac eirioli dros hynny a chyflawni bywydau llewyrchus iach i bawb yng Nghymru a thu hwnt.