Neidio i'r prif gynnwy

Animeiddiadau WHESRi

Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd wedi paratoi cyfres o animeiddiadau i dynnu sylw at ei gwaith hanfodol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. 

Yn rhan o fenter fyd-eang, a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd y Byd (WHESRi) yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran tegwch iechyd er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach, ac mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws ac adfer yn effeithiol ohono.

Mae'r animeiddiadau'n dangos prif ganfyddiadau'r adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd gan y tîm, ‘Rhoi tegwch iechyd wrth wraidd yr ymateb cynaliadwy i COVID-19 ac adfer ohono: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru a chanolbwyntio ar effeithiau ehangach, llai gweladwy'r pandemig ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:  

  • Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol 
  • Diweithdra, addysg a'r gagendor digidol  
  • Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu 

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi'i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig.