Neidio i'r prif gynnwy

Pwysleisio pwysigrwydd brechu, wrth i'r brigiad o achosion o'r frech goch yng Nghaerdydd ddod i ben

Cyhoeddig: 18 Ionawr 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cwblhau eu cwrs llawn o frechlynnau MMR, wrth iddo gadarnhau bod y brigiad o achosion o'r frech goch yng Nghaerdydd a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023 bellach wedi dod i ben.  

Cadarnhawyd wyth achos cysylltiedig o'r frech goch yn y brigiad o achosion, a chynhaliwyd olrhain cysylltiadau helaeth er mwyn lleihau trosglwyddiad y feirws heintus iawn. 

Meddai Susan Mably, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chadeirydd Tîm Rheoli'r Brigiad o Achosion: “Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaed gan gydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Caerdydd, sydd wedi ein galluogi i ddod â'r brigiad o achosion hwn i ben a'i atal rhag lledaenu ymhellach. 

“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhieni hynny sydd wedi sicrhau bod eu plant wedi derbyn y brechlyn MMR – dyma'r dull mwyaf effeithiol ar gyfer atal brigiadau o achosion pellach o'r frech goch, a bydd yn amddiffyn eich plant a'r gymuned o'ch amgylch. 

“Fel rhan o'n mesurau rheoli iechyd cyhoeddus arferol roedd yn rhaid i ni dynnu nifer o blant nad oeddent wedi'u brechu'n llawn o'r ysgol a'r feithrinfa – nid ar chwarae bach y cymerir y cam gweithredu hwn ond mae'n arwydd o ddifrifoldeb haint y frech goch a phwysigrwydd amddiffyn pawb yn ein cymuned. Hoffwn ddiolch i staff yr ysgol a'r feithrinfa dan sylw am eu cymorth yn y gweithredu hwn.” 

Meddai Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod y brigiad o achosion hwn o'r frech goch wedi dod i ben, mae'n parhau'n hanfodol bod rhieni'n sicrhau bod eu plant wedi'u brechu'n llawn â dau ddos i atal unrhyw frigiadau o achosion pellach. 

“Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn sy'n gallu achosi cymhlethdodau difrifol sy'n newid bywyd, a brechu yw'r ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o amddiffyn eich plant rhagddi.”