Neidio i'r prif gynnwy

Mae ystadegau swyddogol yn dangos gostyngiad hirdymor yn y gyfradd wedi'i haddasu ar gyfer oedran o farwolaethau oherwydd canser ond cynnydd yn y bwlch amddifadedd

Cyhoeddig: 28 Chwefror 2024

Mae'r ystadegau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod y gyfradd o farwolaethau oherwydd canser, o'i haddasu ar gyfer oedran, wedi gostwng mwy na 16 y cant rhwng 2002 a 2022. 

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y ‘bwlch amddifadedd’ ar gyfer marwolaethau canser wedi tyfu 17 pwynt canran dros yr ugain mlynedd diwethaf. 

Mae'r ystadegau diweddaraf gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn dangos bod y gyfradd gyffredinol o farwolaethau o bob canser*, o'i haddasu ar gyfer oedran, wedi gostwng mwy na 16 y cant rhwng 2002 a 2022.  Er y bu adegau yn ystod y cyfnod hwn lle roedd y dirywiad wedi lefelu ac mae llawer o'r gostyngiad wedi digwydd yn ystod rhan gynharach y cyfnod. 

Er bod nifer gwirioneddol y marwolaethau o ganser wedi cynyddu, mae'r newid yng nghyfansoddiad y boblogaeth gyffredinol – oherwydd bod pobl yn byw'n hirach – yn golygu bod y gyfradd wedi'i haddasu yn ôl oedran pan fo pobl yn marw o ganser wedi gostwng mewn gwirionedd.  Mae nifer y marwolaethau o ganser yn 2022 – 9,154 – yn uwch nag ym mlynyddoedd y pandemig yn 2020 a 2021, ond yn debyg i'r lefelau cyn y pandemig.   

Mae'r data hefyd yn dangos bod y gyfradd marwolaethau ar gyfer pob canser wedi'i gyfuno* 44 y cant yn uwch yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf o gymharu â'r ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf yn 2022, bwlch sydd wedi cynyddu o 27 y cant yn 2002. 

Mae'r bwlch amddifadedd yn cael ei ysgogi gan farwolaethau o ganser yr ysgyfaint, ac mae'r bwlch ar gyfer y canser hwn wedi ehangu ers 2002, gyda'r marwolaethau yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf 2.5 gwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf.   

Mae'r bwlch amddifadedd yn cyfateb i gyffredinrwydd smygu, gydag Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod, yn 2022-23, mwy na 21 y cant o oedolion yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru yn smygu – bron deirgwaith yn uwch na'r ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf. 

Canser yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau yng Nghymru o hyd, a chanser yr ysgyfaint yw'r canser mwyaf cyffredin i achosi marwolaeth, gan achosi dau o bob deg marwolaeth o ganser yng Nghymru.  Mae pedwar o bob deg o farwolaethau oherwydd canser yn cael eu hachosi gan ganser yr ysgyfaint, coluddyn, prostad a chanser y fron ymhlith menywod. 

Meddai Nathan Lester, Pennaeth Tîm Dadansoddi'r Arsyllfa a Chanser ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yn amlwg, mae pob marwolaeth o ganser yn drasiedi i ffrindiau a theulu'r person sydd wedi marw.  

“Mae'r ystadegau diweddaraf hyn yn darparu gwybodaeth i ni am y tueddiadau mewn marwolaethau canser dros gyfnod o ugain mlynedd – sydd ynghyd â'r newidiadau yn y boblogaeth gyffredinol yn dangos bod cyfradd y marwolaethau oherwydd canser yn gostwng. 

“Mae'r bwlch sylweddol uwch yn y gyfradd marwolaethau rhwng yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf a'r amddifadedd lleiaf yn bryder, yn enwedig gyda chanser yr ysgyfaint gan fod cyfraddau smygu mewn ardaloedd o amddifadedd uwch yn ystyfnig o barhaus. 

“Mae hefyd yn galonogol gweld y data hyn yn dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig, oherwydd bod hyn yn ein galluogi i gael darlun cliriach o'r wybodaeth am ganser, a sefydlu tueddiadau tymor hwy.” 

Gellir dod o hyd i'r data diweddaraf ar offeryn adrodd canser WCISU